Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

17.05.07

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dyfarnu £504,000 i adfywio Parc y Ponciau.

Mae Parc y Ponciau, yr unig safle cyhoeddus mawr ym Mhonciau a Rhosllannerchrugog, wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y parc i’w hen ysblander yng nghyfnod y 1950au. Honno yw'r ddegawd sy'n atgoffa pobl o'r parc yn gyflawn a llawn bywyd.

Dyfeisgarwch a gwaith caled glowyr, y gymuned a myfyrwyr y grwp heddwch yn y 1920au a’r 1930au sy’n gyfrifol am fodolaeth y parc. Caiff y grant o £504,000 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ei weld fel cyfraniad pwysig i adfywiad treftadaeth ddiwylliannol ardaloedd Rhosllannerchrugog a Phonciau.

Bydd y cyllid yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddechrau gweithio ar ailddatblygu’r parc yr haf hwn.

Bydd y cynnig yn fanteisiol iawn i breswylwyr a phlant lleol yr ardal, ac mae’n cynnwys cynlluniau i ailwampio safle’r seindorf a gosod amffitheatr wylio ar gyfer digwyddiadau awyr agored trwy gydol y flwyddyn.

Bydd y gwaith ailwampio hefyd yn cynnwys gwelliannau i lwybrau presennol gan gynnwys goleuadau stryd a meinciau newydd ynghyd â llwybrau ychwanegol i wella hygyrchedd i bawb. Ceir cynlluniau hefyd i wella ac uwchraddio’r cyfleusterau hamdden a chwaraeon presennol, gan gynnwys adfer y cyrtiau tennis.

Mae’r cynigion i ailwampio Parc Ponciau i’w ogoniant gwreiddiol hefyd yn cynnwys adfer wal derfyn a theras uwch ynghyd â chreu mynedfa ddathlu gyda cherfluniau cerrig yn ymwneud â hanes y parc a’i le o fewn y gymuned. Bydd y gwelliannau’n cynnwys plannu ardaloedd eang o brysglwyni a choed. Caiff mesurau gwrthfandaliaeth a TCC eu cyflwyno hefyd.

Caiff swyddog datblygu ei gyflogi ar gyfer y parc i ddarparu digwyddiadau, addysg a rhaglen gwneud iawn.

Dywed Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Mae parciau a gerddi’n rhan bwysig o’n treftadaeth yng Nghymru. Dylai pawb gael mynediad at barc, p’un a ydynt am ei ddefnyddio fel lle i gwrdd, lle i wneud chwaraeon neu rywle i ymlacio. Bydd Parc Ponciau’n ardal gymunedol amhrisiadwy i holl aelodau’r cyhoedd a bydd yn rhoi hwb mawr i adferiad Rhosllannerchrugog.”

Wrth roi sylwadau am y dyfarniad, cytunodd y Cynghorwyr Lleol Aled Roberts a Paul Pemberton bod y cyllid yn newyddion da iawn ac yn gwbl hanfodol i sicrhau bod y prosiect i adfer yr ardal yn mynd ymlaen.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer yr ardal ac mae’n ychwanegu at fuddsoddiad mewn cynlluniau eraill sy’n anelu at ddarparu cyfleusterau hamdden i deuluoedd a phobl hyn fel ei gilydd. Mae ein diolch yn fawr i gyfeillion lleol Parc y Ponciau am eu gwaith caled i sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r CDL am eu cefnogaeth i ddarparu’r cyllid hwn. Nawr gallwn i gyd edrych ymlaen at ddatblygu’r prosiect a’i gwblhau.

yn ôl i'r brig