Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
11 Mehefin 2009



Mae Parc y Ponciau wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth hanner miliwn o bunnau.
Bu i Faer Wrecsam, Arwel Gwynn Jones a Chynghorwyr y Ponciau sef y Cynghorydd Aled Roberts a Paul Pemberton, fynychu seremoni arbennig yn y parc i ddathlu cwblhau gwaith adnewyddu’r parc i’w gyn ysblander, fel yr oedd yn y 1950au, pan ystyriwyd bod y parc yn ei anterth.
Roedd y seremoni yn dangos y diwylliant cyfoethog sy’n deillio o’r ardal. Cafwyd perfformiadau cerddorol gan ‘Cantorion Rhos’ a chôr Ysgol y Grango, ynghyd ag arddangosiad gan y Clwb BMX lleol a leolir ym Mharc y Ponciau.
Derbyniodd Parc y Ponciau £504,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i’w wario ar waith gwella ac adnewyddu treftadaeth ddiwylliannol ardaloedd y Rhos a Phonciau. Gwariwyd yr arian ar waith adnewyddu pwysig gan gynnwys adnewyddu safle’r band ac amffitheatr gwylio newydd a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau dan do drwy gydol y flwyddyn.
Mae gwelliannau pellach yn cynnwys gwell mynediad a llwybrau, goleuadau newydd a system deledu cylch cyfyng a pharc sgrialu newydd.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru
“Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi llawer o barciau yng Nghymru. Roedd Parc y Ponciau yn sefyll allan oherwydd y dreftadaeth gymdeithasol arbennig iawn sydd gan y parc. Yn bwysicach na hynny, mae’r Awdurdod Lleol wedi dangos i ni fod y parc yn rhan werthfawr o’r gymuned leol a bod y parc yn rhan bwysig iawn o hanes y gymuned”.
Mae cwblhau’r cynllun yn ddiwedd prosiect hir rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, grwp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau, Cyngor Cymuned y Rhos, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri sy’n gweithio gyda’i gilydd i adfer y Parc i’w ogoniant blaenorol”
Dywed Cynghorydd y Ponciau, Paul Pemberton,:
“Ni fyddai’r gwaith ailddatblygu wedi digwydd heb y gwaith caled a wnaed gan Gyfeillion Parc y Ponciau. Hoffwn ddiolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri am eu help a’u cefnogaeth, a’n holl gyfeillion a chydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r parc yn edrych yn wych a bydd yn rhoi cyfleusterau y mae pobl leol yn eu haeddu “
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor a Chynghorydd Ponciau Aled Roberts:
“Yn dilyn blynyddoedd o waith caled gan grwp o wirfoddolwyr a gefnogwyd gan y Cynghorau Cymuned a’r Cyngor Bwrdeistref a Chronfa Treftadaeth y Loteri mae gennym bellach gyfleuster o’r safon uchaf i’n plant, pobl ifanc a’r gymuned i’w fwynhau. Rydw i’n edrych ymlaen at y gweithgareddau a gynhelir heb os nac oni bai yn ystod misoedd yr haf”.
"Dylai pawb fod yn gallu mynd i’r parc p’un ai ydynt am ei ddefnyddio fel man cyfarfod, lle i wneud chwaraeon, neu rhywle i ymlacio. Mae Parc y Ponciau yn ardal gymunedol amhrisiadwy ar gyfer pob aelod o’r cyhoedd ac mae’n hwb mawr i ardal y Ponciau a’r Rhos ".
Mae cwblhau’r cynllun hefyd yn ddiwedd prosiect hir sydd wedi gweld Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, grwp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau, Cyngor Cymuned Rhos a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn cydweithio i ddychwelyd y parc i’w gyn ysblander.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell Aelod Arweiniol Dros yr Amgylchedd a Chludiant,:
“Mae adnewyddu Parc y Ponciau yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Wrecsam i wella ein parciau lleol yn Wrecsam. Dyma gyflawniad anhygoel gan bawb sy’n gysylltiedig â’r broses ac mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono."
Am fwy o wybodaeth am Barc y Ponciau, cysylltwch â Katie Birks, Swyddog Datblygu’r Parc ar 01978 844028.