Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

27 Mehefin 2009

Dyfrbont Drawiadol Yn Ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd

Mae arweinwyr dyfrffyrdd, prif swyddogion y cyngor a chymunedau lleol heddiw yn dathlu’r newyddion fod Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.

Daeth y daith a ddechreuodd yn 1999 i ben yn Seville yr wythnos hon pan gafodd ei roi ar restr y DU o Safleoedd Treftadaeth y Byd posibl pan roddodd UNESCO yr un statws i gampwaith Thomas Telford â’r Great Barrier Reef, y Tai Mahal a’r Acropolis.

Bydd y cyhoeddiad yn hwb sylweddol i’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru, wrth i’r safle 11 milltir o’r Waun at Raeadr y Bedol ar Afon Ddyfrdwy yn Llangollen gael ei sefydlu i ddiffinio’r ardal unigryw hon. Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol dros Ddyfrffyrdd Prydain Cymru a Siroedd y Gororau Julie Sharman fod y wobr yn cynrychioli cyfle ffantastig i groesawu cyfnod llewyrchus newydd yng Ngogledd Cymru a’r Gororau. “Camlas Llangollen yw un o’r rhannau mwyaf prysur a hardd o ddyfrffordd yn y DU. Mae 15,000 o gychod yn teithio ar ei hyd bob blwyddyn, tra bod dros 200,000 o bobl yn ymweld â’r ardal hon o gefn gwlad ysblennydd ac atyniadau deniadol,’ meddai Ms Sharman.

Arweiniwyd yr ymgais am statws Safle Treftadaeth y Byd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chroesawodd y Cynghorydd Aled Roberts y cyhoeddiad.

"Mae hyn yn newyddion gwych. Mae Dyfrbont Pontcysyllte yn rhan bwysig o’n treftadaeth ac mae trigolion lleol yn falch iawn ohoni. Dyma ddiwrnod i Wrecsam ymfalchïo ynddo gan ein bod wedi cyflawni’r nod hwn a gobeithiwn yn fawr y bydd yn dod ag adfywio economaidd nid yn unig i’n cymunedau ynghyd â choridor y gamlas ond hefyd i’n cymdogion yn Sir Ddinbych a Sir Amwythig."

"Dywedodd Bob Dutton Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gymunedau a’r prosiect ei fod wrth ei fodd gyda chanlyniad safle tretadaeth y byd, sef ffrwyth llafur sawl blwyddyn o waith gan swyddogion a Chynghorwyr a’n partneriaid. Rwyf am ddiolch i Weinidogion y Cynulliad a Gweinidogion y Llywodraeth a’u swyddogion sydd wedi helpu i ddwyn y maer i’r wal. Yn dilyn fy ymweliad archwilio â safleoedd Treftadaeth y Byd yng ngogledd yr Eidal llynedd rwy’n siŵr bellach bod gennym gyfle gwych i wella twristiaeth a chreu prosiectau busnes a fydd o fudd i’n cymunedau lleol."

Mae’r enwebiad wedi arwain at ddatblygu partneriaeth gref rhwng partneriaid yr ymgais Cyngor Wrecsam, Dyfrffyrdd Prydain a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gyda chefnogaeth Cynghorau Sir Ddinbych a Sir Amwythig, Cadw ac English Heritage.

Mae’r Partneriaid yn sicrhau bod pobl leol yn parhau i fod yn gysylltiedig yn ystod yr her hanesyddol hon gyda phrosiect treftadaeth gymunedol a gomisiynwyd yn arbennig. Mae Swyddog Prosiect newydd benodedig wrthi’n chwilio am wybodaeth a balchder mewn cymunedau ar hyd y safle 11 milltir i sicrhau bod hanes a threftadaeth leol yn ganolbwynt byw i’r weledigaeth gyffredin hon.

Mae pob un o’r strwythurau allweddol yn parhau i fod heb eu newid ac mae’r partneriaid yn ymrwymedig i gynnal y safonau uchaf o ran cadwraeth, gan sicrhau y caiff y Safle Enwebedig ei reoli mewn ffordd sy’n dod â manteision gwirioneddol a chynaliadwy i gymunedau lleol.

Caiff y safle ei reoli ar y cyd gan y partneriaid, a fydd yn goruchwylio ei dyfodol ac yn denu buddsoddi mewnol er mwyn:

  • rheoli’r Safle a’r Ardal Glustogi mewn ffordd briodol i ddiogelu, gwella a chyflwyno Gwerth Cyffredinol Rhagorol o’r safle yn lleol ac yn rhyngwladol.
  • sicrhau cydbwysedd o ran diogelu, cadwraeth a mynediad, buddiannau’r gymuned leol a sicrhau twf economaidd cynaliadwy.
  • ystyried a chyflwyno manteision i’r cymunedau lleol o amgylch y safle.
  • denu ymwelwyr i’r ardal.
  • datblygu cyfleoedd ar gyfer addysg a dysgu.
  • creu incwm, ychwanegu gwerth at y gymuned leol neu ar gyfer buddsoddi o ran rheoli’r safle.

Cyswllt i

yn ôl i'r brig