Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
20 Awst 2010
Dyfarnwyd y contract i adeiladu ysgol gynradd newydd £5 miliwn, 210 lle yn Rhosymedre i Watkin Jones ac mae gwaith dymchwel yn dechrau’r mis yma.
Bydd gan yr ysgol newydd gynllun siâp U a bydd yn cydymffurfio â safonau BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol BRE), sef y dull asesu amgylcheddol arweiniol ar gyfer adeiladau ac sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf. Mae’n gosod safon arferion gorau dylunio cynaliadwy ac mae wedi dod yn safon y diwydiant sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio perfformiad amgylcheddol adeilad. Marches Ecology sy’n goruchwylio agweddau defnydd tir ac ecoleg y prosiect ac ni hysbyswyd unrhyw broblemau fel madfallod dwr cribog neu ystlumod.
Mae nodweddion cynaliadwy’r ysgol newydd yn cynnwys paneli gwres yr haul i wresogi a darparu dwr poeth yn y ceginau a thoiledau. Bydd gwresogi dan y llawr yn cael ei ddarparu trwy uned pwmp gwres ffynhonnell dir neu awyr. Bydd holl offer golau’n dra effeithlon neu oleuadau LED a bydd rheolaethau goleuo’n cael eu hymgorffori wrth ddylunio er mwyn gwneud y defnydd gorau o olau dydd naturiol.
Yn ystod y gwaith adeiladu bydd disgyblion yn cael eu dysgu yn adeilad y babanod ac mewn ystafelloedd dosbarth symudol.
Meddai’r Cynghorydd Aled Roberts, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Fe wn fod y gymuned gyfan yn edrych ymlaen at gael ysgol dosbarth cyntaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu dysgu mewn amgylchedd sy’n tynnu allan eu llawn allu. Edrychaf ymlaen at ddilyn cynnydd yr adeilad newydd ac at ei agor y flwyddyn nesaf.”
Ar hyn o bryd yn Wrecsam mae gwaith ar y gweill i wella tair ysgol uwchradd ac mae hefyd ar Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yng Ngwersyllt ac ysgol gynradd newydd yn Llai.
Mae dros £35 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn adeiladau ysgol a bydd swyddogion yn dal i chwilio am bob cyfle i gael cyllid i alluogi mwy fyth o welliannau yn y fwrdeistref sirol.