Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

19 Chwefror 2010

Rhoi Sêl Bendith ar Gynlluniau Ysgol Newydd yn Rhosymedre

Rhoi Sêl Bendith ar Gynlluniau Ysgol Newydd yn Rhosymedre

Bydd y datblygiad gwerth bron £5 miliwn yn darparu ysgol gynradd a 200 o leoedd ynddi a fydd yn diwallu’r anghenion addysgol a’r safonau gofynnol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn darparu’r rhan fwyaf o’r arian.

Pan fydd y gwaith adeiladu ar fynd, sy’n cynnwys dymchwel yr ysgol iau, caiff y disgyblion eu haddysgu yn yr ysgol fabanod ac mewn ystafelloedd dosbarth symudol. Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad hyd yma ynghylch beth fydd yn digwydd i adeilad yr ysgol fabanod pan fydd yr holl waith adeiladu wedi’i gwblhau.

Bydd cynllun siâp U i’r ysgol newydd a bydd yr adeilad yn cydymffurfio â BREEAM (Dull Asesiad Amgylcheddol BRE) sef y dull blaenllaw, y defnyddir fwyaf arno, o gynnal asesiad amgylcheddol ar adeiladau. Mae’n pennu’r safon ar gyfer arfer gorau mewn dylunio cynaliadwy ac erbyn hyn hon yw’r safon ddiwydiannol sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio perfformiad amgylcheddol unrhyw adeilad.

Bydd y nodweddion cynaliadwy yn cynnwys paneli gwres yr haul a fydd yn gwresogi’r system dwr poeth ar gyfer y ceginau a’r cyfleusterau toiled. Fe fydd gwres tanlawr yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng uned pwmp gwres y tir neu’r awyr. Bydd yr holl oleuadau’n rhai tra effeithlon neu’n defnyddio ffynonellau goleuadau LED a bydd offer rheoli goleuadau’n cael eu cynnwys yn y dyluniad er mwyn defnyddio golau dydd naturiol i’r eithaf.

Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ym mis Awst 2010 a dylai gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer tymor yr hydref ym mis Medi 2011.

Y Cynghorydd Aled Roberts yw Arweinydd Cyngor Wrecsam, ac meddai:

"Mae Cyngor Wrecsam eisoes wedi buddsoddi mwy na £75 miliwn mewn gwella’r safonau adeiladu. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn, ynghyd â’r £20 miliwn a mwy a fuddsoddir yn y tair ysgol uwchradd, sef y Maelor, Darland a Bryn Alyn, yn profi ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gwell amgylchedd i’n pobl ifanc a’n staff ddysgu ac addysgu ynddo."

yn ôl i'r brig