Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
20 Rhagfyr 2011


Mae staff Llyfrgell Rhiwabon wedi bod yn ymdaflu yn llawen i hwyl yr ŵyl gyda chymorth Ysgolion Cynradd y Santes Fair a Maes-y-Llan.
Bu’r disgyblion yn canu amrywiaeth o garolau Nadolig anarferol yr oeddent wedi eu dysgu yn arbennig ar gyfer yr achlysur yn ogystal ag un neu ddwy o’r hen ffefrynnau hefyd.
Daeth nifer fawr o aelodau’r gymuned draw i wylio’r cyngerdd a mwynhau mins-peis cynnes, ac roedd yr holl roddion ariannol yn cael eu hanfon i Hosbis Plant Tŷ Gobaith.
Mae’r digwyddiad Nadolig hwn yn gyfle i nodi diwedd blwyddyn lawn digwydd i Lyfrgell Rhiwabon. Ym mis Mawrth cafodd ei hailagor yn swyddogol yn sgil cwblhau prosiect atgyweirio £160,000 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Yma hefyd y mae lleoliad y cyfleuster cyntaf sydd gan Cyswllt Wrecsam y tu hwnt i’r dref.
Bellach mae gan y llyfrgell well cyflenwad o lyfrau sy’n cynnwys y llyfrau diweddaraf sy’n gwerthu orau a DVDs, man arddangos cymunedol, mynediad am ddim at y cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol trwy gydol y flwyddyn.
Ann Hughes yw’r Llyfrgellydd Cymunedol ac meddai:
“Fe hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr dawnus a roddodd berfformiad ardderchog ar ein cyfer heddiw. Yn Llyfrgell Rhiwabon rydym yn hynod falch o weithio ag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er mwyn cynnal llond gwlad o ddigwyddiadau i bawb yn y teulu trwy’r flwyddyn.”
Y Cynghorydd Bob Dutton OBE yw’r Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad ac meddai:
“At ei gilydd mae Cyngor Wrecsam wedi adeiladu o’r newydd, neu adnewyddu, naw llyfrgell ers 2002 sef tri chwarter y llyfrgelloedd yn y fwrdeistref. Mae Llyfrgell Rhiwabon yn enghraifft ardderchog o’r rhan hollbwysig y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae ym mywyd beunyddiol ein cymunedau. Felly mae’r holl weithgarwch presennol yn ffordd wych o roi cychwyn ar ddathliadau’r Nadolig.”