Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

21 Ionawr 2008

Wrecsam yn chwilio am Ben-selsigen

Mae Wrecsam i gael ei selsigen ei hun yn dilyn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i bencampwr ymysg holl selsig y fro.

Daw’r gystadleuaeth yn sgil menter gan Fforwm Twristiaeth Wrecsam i ddatblygu mwy o ymdeimlad o le yn yr ardal. Mae’r fforwm wedi cydweithio gyda Fforwm Canol y Dref ac Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i drefnu cystadleuaeth ar gyfer cyflenwyr lleol i ennill y teitl “Pen-selsigen Wrecsam”.

Eglurodd Darryl Shaw, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth Wrecsam: “Mae’n bwysig i bob cyrchfan greu ymdeimlad o le fel y gall ymwelwyr deimlo eu bod yn ymweld â rhywle â phriodweddau unigryw. Gellir gwneud hyn yng ngwestai Wrecsam drwy arddangos lluniau o leoedd o ddiddordeb yn lleol, defnydd o’r Gymraeg neu drwy gael cynnyrch lleol ar y fwydlen. Roedd ein haelodau yn awyddus i weld cynnyrch bwyd lleol yn cael ei ddatblygu a dyna ble daeth y syniad o selsigen Wrecsam.”

Mae gan Wrecsam draddodiad balch fel tref farchnad ac mae ganddi ei Marchnad Gig restredig ei hun wedi’i lleoli yng nghanol y dref hanesyddol. Deil y farchnad i fod yn gartref i amryw o gigyddion annibynnol o safon ac roeddent yn awyddus i gymryd rhan pan glywsant gyntaf am y syniad. Fodd bynnag, nid yw’r gystadleuaeth wedi’i chyfyngu i ganol y dref gan fod hawl gan gigyddion ledled y Fwrdeistref Sirol i gymryd rhan ac maent wedi cael manylion y gystadleuaeth.

Bydd y beirniadu a chyhoeddi’r enillwyr yn digwydd yn ystod Dathliadau Gwyl Ddewi Wrecsam ddydd Sadwrn 1af Mawrth. Bydd y dathliadau’n digwydd yn Sgwâr y Frenhines lle bydd marchnad Gymreig, perfformiadau a gweithgareddau fydd yn apelio at bob oed. Efallai bod ychydig o stondinau marchnad ar gael o hyd i gynhyrchwyr bwyd neu grefftau Cymreig. Hefyd, bydd pen-cogydd y teledu, Matt Tebbutt, yn rhoi arddangosfeydd coginio yn ogystal â bod yn un o feirniaid y gystadleuaeth selsig.

Dywedodd Colin Hyde, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu gydag Adran Datblygiad Economaidd y Cyngor: “Rydym yn hapus i gefnogi’r Fforwm Twristiaeth wrth ddatblygu’r cysyniad arloesol hwn. Cynlluniwyd ein digwyddiad Dydd Gwyl Dewi i apelio at ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd a dylai rownd derfynol ein cystadleuaeth selsig roi blas ar ein dathliadau o bopeth Cymreig.”

Am fwy o fanylion am ddathliadau Dydd Gwyl Dewi, neu i wybod sut i gystadlu yn y gystadleuaeth selsig os ydych yn gigydd yn Wrecsam sydd heb dderbyn pecyn gwybodaeth, cysylltwch ag Is-adran Twristiaeth Cyngor Wrecsam ar 01978 292489.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Colin Hyde 01978 292449

yn ôl i'r brig