Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
12 Awst 2010
Erbyn hyn mae gan Gyngor Wrecsam adran newydd ar eu gwefan. Mae’r tudalennau Gwella Ysgolion yn dangos sut mae pethau’n mynd rhagddynt mewn perthynas â’r gwaith adeiladu ac adnewyddu sy’n cael ei wneud yn y fwrdeistref sirol drwyddi draw.
Ar hyn o bryd ar y tudalennau hyn mae gennym wybodaeth am 6 ysgol:
Mae Ysgol Darland yn Yr Orsedd yn cael bloc gwyddoniaeth newydd ac ystafelloedd TGCh, bydd Ysgol Maelor Llannerch Banna yn manteisio ar gael Neuadd Chwaraeon newydd, a bydd Ysgol Bryn Alun yng Ngwersyllt hithau’n cael bloc gwyddoniaeth newydd a Chyfleuster TG. Bydd adeilad yr Adran Iau yn Ysgol Rhosymedre yn cael ei ddymchwel er mwyn codi adeilad newydd sbon yno ac fe gyhoeddwyd yn swyddogol y bydd £4.5 miliwn yn cael ei glustnodi i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol GG Parc Llai. Fe gyhoeddwyd hefyd y bydd Cynulliad Cymru yn rhoi cyllid er mwyn adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Gwersyllt. Bydd yr adeilad yn costio £5 miliwn Bydd mwy na £35 miliwn yn cael ei wario ar y prosiectau yn y misoedd nesaf.
John Davies yw'r Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad yng Nghyngor Wrecsam ac meddai:
"Mae cael ysgolion sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif yn fater pwysig i ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau cyllid a darparu adnoddau er mwyn iddynt gael eu defnyddio er lles yr ysgolion. Mae’n hollbwysig inni gael ysgolion ac adeiladau a fydd yn cynorthwyo’r disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Ar ben hynny mae’r ysgolion eu hunain yn rhan annatod o’r gymuned ac mae’r gwe-dudalennau hyn yn ffordd berffaith o roi gwybod iddynt beth sy’n digwydd yn y eu hardal."
Caiff y tudalennau eu diweddaru’n rheolaidd a byddant yn cynnwys ffotograffau sy’n dangos sut mae pob prosiect yn dod yn ei flaen.
Mae’r tudalennau i'w gweld yn adran addysg a dysgu ar wefan y Cyngor a gallwch eu gweld yn www.wrecsam.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm trwy anfon e-bost at schools_improvements@wrecsam.gov.uk.