Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

08 Chwefror 2010

Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Cynllun Grantiau Bach

Mae mwyhau eu hoes waith yn gallu cael effaith bendant ar lawer o bobl.  Fel arfer mae gwaith yn cael ei gysylltu â gwell incwm, gwell safon bywyd, byw bywyd sy’n fwy llawn mynd a gwell lles.  Ar ben hynny mae pobl yn teimlo eu bod yn ymwneud rhagor â chymdeithas.

Bydd ceisiadau am y cynllun grantiau hwn yn cael eu hystyried ar gyfer gweithgareddau/rhaglenni a fydd yn galluogi pobl 50+ oed i gael eu hailhyfforddi ac i wella eu sgiliau er mwyn hybu eu gallu i gael gwaith neu i wirfoddoli.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr i wneud cais am daliad grant untro o hyd at £2,000.

Er mwyn cael pecyn cais neu fanylion ychwanegol byddwch cystal â chysylltu â:

Linda Mullock ar 01978 297063 neu Anfonwch e-bost at:ops@wrexham.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher Chwefror 24ain 2010.

yn ôl i'r brig