Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
12 Awst 2010
Mae peth wmbredd o bethau yn dal i fod ar gael i gadw’r plant yn ddiddan yn eich llyfrgell leol yn ystod gwyliau’r haf.
Trwy gydol y gwyliau bu llyfrgelloedd ledled Cymru yn anfon plant ar antur rhwng galaethau gyda’r Her Ddarllen ar gyfer Haf 2010 - Sbonc y Gofod.
Dyma’r gweithgaredd AM DDIM y dylai pob plentyn rhwng 3 - 12 oed geisio ei gyflawni yr haf yma. Yr unig beth y mae’r plant yn gorfod ei wneud yw mynd i’r llyfrgell o leiaf teirgwaith yn ystod y gwyliau a darllen 6 llyfr neu ragor. Yn ystod y cyfnod hwn bydd eich plentyn yn cael gwobrau - dalen-nodyn, pensil, band arddwrn, tystysgrif a sticeri. Bydd pawb sy’n llwyddo i gwblhau’r her erbyn Medi 4ydd yn cael gwahoddiad i fynd i ddigwyddiad dathlu Sbonc y Gofod ar ddydd Sadwrn, Hydref 2il.
Bydd pob un o’r plant sy’n cwblhau her Sbonc y Gofod yn cael eu cynnwys mewn raffl fawr ac fe gânt gyfle i ennill Nintendo DS. I gael rhagor o fanylion byddwch cystal â chysylltu â’ch llyfrgell leol.