Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

02.12.05

Ymwelydd pigog yng nghanol tref Wrecsam y penwythnos hwn

Caiff pobl sy’n ymweld â thafarnau a chlybiau Wrecsam eu synnu’r penwythnos hwn, pan ddaw’r draenog sinistr “Spike” i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig ag ymyrryd â diodydd.

Lansiwyd y cynllun y llynedd, ac mae’n ein hatgoffa pa mor hawdd yw rhoi cyffuriau mewn diodydd sy’n cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt. Mae pobl yn rhoi cyffuriau mewn diodydd am dri phrif reswm - am hwyl, i ladrata neu i ymosod ar rywun yn rhywiol neu eu treisio.

Bydd Criw “Spike” yn y dref nos Wener a nos Sadwrn yn gwisgo crysau T “Spike”. Byddant yn rhoi tagiau “Spike” ar unrhyw ddiodydd sy’n cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt ac yn rhybuddio diotwyr am y peryglon.

Dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd Wrecsam:

“Wrth lwc, ychydig iawn o achosion o gryfhau diodydd yr adroddir amdanynt yn Wrecsam, ond ni ddylai hyn ein gwneud yn hunanfodlon. Mae alcohol yn gwneud i ni ymlacio, ac mae perygl nad ydym yn talu digon o sylw i’r ffaith y gallai rhywun fod wedi “cryfhau” ein diod. Mae yna gyngor syml ac effeithiol y gellir ei ddilyn, a thrwy roi tagiau “Spike” ar wydrau, gobeithiwn y bydd diotwyr yn meddwl ddwywaith yn y dyfodol.”

Os oes rhywun wedi cryfhau eich diod, efallai y byddwch yn teimlo’n sâl neu’n flinedig neu’n feddw iawn yn sydyn, ac mae’n debyg y byddwch yn deffro yn y bore yn cofio dim am y noson gynt. Os ydych yn credu bod rhywun wedi cryfhau eich diod, rhowch wybod i’r heddlu ar unwaith. Ceir cyngor pellach gan Sefydliad Roofie ar 0800 783 2980 neu eu gwefan www.roofie.com

Mae yna sawl peth y gellwch ei wneud i osgoi cael rhywun yn cryfhau eich diod:

  • Rhowch wybod i rywun i le’r ydych yn mynd a faint o’r gloch yr ydych yn disgwyl cyrraedd adref
  • Peidiwch â mynd allan ar eich pen eich hunan gyda’r nos
  • Cofiwch fod alcohol yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn ymateb – byddwch yn llai gwyliadwrus
  • Peidiwch fyth â derbyn diod gan rywun dieithr
  • Peidiwch fyth â gadael eich diod heb neb i ofalu amdani
  • Meddyliwch yn ofalus cyn mynd gyda rhywun yr ydych newydd gyfarfod â nhw
  • Cynlluniwch eich noson gan gynnwys eich taith yno ac yn ôl
  • Penodwch rywun i gadw golwg ar eich diodydd os ydych yn mynd i’r toiled neu i ddawnsio. Nid yw nifer o glybiau’n caniatáu i chi fynd â’ch diod gyda chi i ddawnsio, felly ni ellwch ofalu amdani.
  • Peidiwch â meddwl nad yw pobl yn cryfhau diodydd meddal…maen nhw!
  • Gall pobl gryfhau diodydd dynion yn ogystal â diodydd merched.
  • Os yw eich diod wedi’i symud, yn edrych yn llawnach neu’n blasu’n rhyfedd…peidiwch â’i hyfed. Prynwch ddiod arall!

yn ôl i'r brig