Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Chwefror 2010

Helpu tref ddathlu Dydd Gwyl Dewi

Mae pobl ar hyd a lled Wrecsam yn cael eu hannog i gynorthwyo dathlu Dydd Gwyl Dewi trwy gymryd rhan yng ngorymdaith swyddogol y dref..

Mae trefnyddion yng Nghyngor Wrecsam eisiau clywed oddi wrth ysgolion, grwpiau ac unigolion sy’n awyddus i gyfranogi yn yr achlysur, a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd ac a fu’n llwyddiant ar unwaith.

Bydd yr achlysur yn dechrau am 2pm ar ddydd Llun, 1 Mawrth, gyda’r orymdaith yn cychwyn o’r maes parcio talu a dangos oddi ar Ffordd Gyswllt San Silyn, ac yn ymdroelli ar hyd Stryt y Twtil, Stryt Yorke, y Stryd Fawr, Stryt yr Hôb, Bwa Argyle a Ffordd Rhosddu cyn gorffen yn Llwyn Isaf o gwmpas 2.30pm.

Bydd Band Drymiau Cambria’n darparu’r sain a bydd Ysgol Sant Christopher yn arwain y ffordd gyda’u cawr o ddraig.

Meddai’r Cynghorydd Rodney Skelland, aelod arweiniol dros adfywio a llywodraethu corfforaethol: “Roedd yr orymdaith yn llwyddiant mawr y llynedd gyda llaweroedd o bobl ar hyd y strydoedd, a gobeithiwn y bydd yn dod yn rhan barhaol o galendr Wrecsam.

“Yn ogystal ag annog pobl i ddod i wylio, rydym yn awyddus i glywed oddi wrth ysgolion, grwpiau ac unigolion fyddai’n hoffi cymryd rhan a helpu’r dref ddathlu nawddsant Cymru.”

Dylai unrhyw ysgolion a grwpiau sydd â diddordeb ffonio Adran Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam ar 01978 292538.

Gall unigolion a grwpiau bach o hyd at bedwar o bobl ymuno â’r orymdaith ar y diwrnod trwy fynd i’r man cychwyn oddi ar Ffordd Gyswllt San Silyn erbyn 1.45pm.

Mae’r Cyngor hefyd yn trefnu Marchnad Dydd Gwyl Dewi yn Sgwâr y Frenhines ar ddydd Sadwrn, 27 Chwefror o 10am tan 4pm. Bydd yr achlysur yn cynnwys Cystadleuaeth Selsig Wrecsam sy’n enwog bellach!

yn ôl i'r brig