Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
18 Awst 2010
Rygbi Stryd yn llwyddiant ysgubolErs i’r sesiynau ddechrau cael eu cynnal ym mis Gorffennaf mae mwy na 300 o bobl ifanc ledled Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn Rygbi Stryd.
Fe roddwyd cychwyn ar sesiynau rygbi stryd i bobl ifanc yn ardaloedd Caia, Gwersyllt a Phlas Madoc yn y fwrdeistref sirol, dan arweiniad hyfforddwyr y Crusaders a chymorth yr heddlu a’r PCSO’s lleol.
Caiff y sesiynau hyfforddi eu seilio ar rygbi’r gynghrair ond maent hefyd yn cynnwys elfennau ffitrwydd, paffio-ymarfer a rygbi’r undeb, a bydd y cystadlaethau’n amrywio o tag-rygbi i 'afael' hyd at ddal gafael yn llawn.
Mae prosiect Stryd Rygbi’r Gynghrair yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Gemau Stryd sy’n mynd â chwaraeon i filltir sgwâr y bobl ifanc, a chyd-fenter ydyw rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam, y Co-Op a Cymunedau’n Gyntaf.
Ac nid dim ond y bobl ifanc sydd wedi manteisio ar Rygbi Stryd. Mae’r Heddlu a’r PCSO’s lleol hwythau wedi torchi eu llewys er mwyn cymryd rhan mewn sesiwn neu ddwy.
Dawn Samuels, yw’r Rhingyll Cymunedol ar gyfer Gogledd Wrecsam a bu hi’n cymryd rhan yn y sesiynau yng Ngwersyllt. Yn ei barn hi mae Rygbi Stryd yn ffordd berffaith o ddod â phobl at ei gilydd, ac ychwanegodd:
“Cafodd Rygbi Stryd ei gyflwyno gan y Crusaders ar y cyd â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae’r Crusaders yn dymuno ymwneud â’r cymunedau yn Wrecsam a chael effaith bendant ar y bywyd cymunedol drwyddo draw. Rydym wedi cynnal sesiwn neu ddwy erbyn hyn ac rydym am sicrhau fod cymaint o bobl ifanc ag y bo modd yn cymryd rhan ynddynt, nid yng Ngwersyllt yn unig ond hefyd yng Ngogledd Wrecsam drwyddi draw. Rydym yn annog clybiau ieuenctid, gwasanaethau ieuenctid ac unrhyw deuluoedd sy’n byw yn yr ardal, i ddod â’u plant draw er mwyn iddynt fanteisio ar Rygbi Stryd.”
“Rwyf yn gwybod bod plant o ardaloedd Gwersyllt, Plas Madoc a Pharc Caia yn elwa ar gynllun Rygbi Stryd. Rwyf yn mwynhau rygbi a bydd y PCSO’s hefyd yn cymryd rhan yn y sesiynau. Mae’n gyfle bendigedig i’r Heddlu feithrin perthynas â’r gymuned a’r bobl ifanc ac mae’n gyfle gwych hefyd i bob un ohonom allu dal pen rheswm â’n gilydd.
“Trwy gydol misoedd yr haf, bydd Rygbi Stryd yn golygu y bydd gan y plant rywbeth i’w wneud a rhywbeth y gallant ganolbwyntio arno. Os gallwn ni sicrhau nad ydynt yn cicio eu sodlau ar y strydoedd, a’u bod yn hytrach yn gwneud rhywfaint o ymarfer a chael hwyl ar yr un pryd, yna bydd hynny’n beth gwych i bawb. Bu’r plant yn dysgu peth wmbredd o sgiliau, fel sut i weithio fel tîm a gobeithio y gall hyn eu perswadio i beidio ag ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.
Matt Pritchard yw’r Rheolwr Datblygiad Cymunedol ar gyfer Crusaders RL ac meddai:
“Roeddem yn gwybod y byddai Rygbi Stryd yn llwyddiant ysgubol yn Wrecsam ond rydym wedi gwirioneddol synnu faint o bobl ifanc sydd wedi dod i’r sesiynau. Mae’r heddlu wedi dod draw yma yn eu dillad chwaraeon i gymryd rhan yn yr hwyl ac mae hynny, wrth gwrs, yn dangos i’r plant eu bod hwy yma i roi help llaw.”
Fe gynhelir Rygbi Stryd yn y lleoedd hyn
• Dyddiau Mawrth – Parc Caia (6-7pm) ar y cae y tu ôl i Stadiwm Chwaraeon Queensway
• Dyddiau Mercher – Gwersyllt (6-7pm) ar y cae wrth Ysgol Bryn Alun
• Dyddiau Iau – Plas Madoc (6-7pm) ar y cae wrth Ganolfan Hamdden Plas Madoc
Am ragor o wybodaeth byddwch cystal â chysylltu â Matt Pritchard ar 01978 262129 neu anfonwch e-bost at mpritchard@crusadersrfl.com.