Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

25 Awst 2010

Prosiect newydd sy’n gwella llythrennedd pobl ifanc

Llwyddiant ysgubol – dyna beth yw’r farn am brosiect arloesol sy’n annog pobl ifanc i wella eu hagwedd at ddarllen.

Mae Prosiect Text Now yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam ar y cyd ag Ysgol Sant Christopher. Bydd gwirfoddolwyr y gwasanaeth yn treulio amser gyda’r disgyblion yn Ysgol Sant Christopher er mwyn eu cynorthwyo i ddarllen.

Bydd y gwirfoddolwyr yn cynorthwyo’r disgyblion gyda rhaglen, a strwythur iddi, o sesiynau darllen 20 munud ar bob diwrnod ysgol am gyfnod o 12 wythnos. Bu 10 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect ac roedd y canlyniadau’n dangos bod eu hoedran darllen o leiaf 1 flwyddyn yn well nag yr oedd yn flaenorol.

Fe gafwyd canlyniadau arwyddocaol eraill hefyd sy’n profi bod pobl ifanc ar y prosiect yn cael rhagor o foddhad wrth ddarllen, eu bod yn darllen yn amlach a’u bod wedi ehangu eu gorwelion o ran yr hyn yr oeddent yn ei ddarllen.

Bwriad y cymorth rheolaidd sy’n canolbwyntio ar roi cefnogaeth un ag un yw meithrin diddordeb person ifanc mewn darllen a’i foddhad wrth wneud hynny, er mwyn sicrhau y bydd llai o berygl iddo gael ei allgau'n gymdeithasol dros gyfnod hir.

Caiff y rhaglen ei hariannu gan Unitas, a ragbrofodd y prosiect yn y lle cyntaf yn 2008. Y canlyniad oedd llwyddiant aruthrol mewn ysgolion ledled Lloegr a Chymru. A bellach mae TextNow yn cael ei anelu at bobl ifanc 13-15 oed sy’n brin o hunanhyder pan maent yn darllen ac sydd hefyd ag oedran darllen isel iawn.

Kathy Weigh yw’r Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac meddai:

“Mae Text Now yn brosiect arloesol sy’n cynorthwyo i feithrin hunanhyder a hunan-barch trwy annog pobl ifanc i roi cynnig ar wahanol ddeunyddiau darllen. Mae hefyd yn eu cynorthwyo i ddarllen ar eu pen eu hunain.

“Mae gwella sgiliau llythrennedd ac annog pobl i ddarllen yn ffactorau pwysig mewn sicrhau na fydd pobl ifanc yn troi cefnau ar addysg a gwaith. Yn ei dro gall hynny sicrhau na fyddant yn dechrau troseddu.

Trwy gydol y rhaglen 12 wythnos fe roddwyd cymhellion a gwobrau i’r bobl ifanc hefyd, ac yn eu plith roedd talebau WH Smith.

Yn 2008, fe gynhaliwyd rhaglen arbrofol genedlaethol Text Now ar 36 safle gan gynnwys ysgolion a cholegau yn Lloegr a Chymru, a bu 400 o bobl ifanc yn cymryd rhan ynddi. Yn ôl y rhaglen arbrofol fe wnaeth yr oedrannau darllen wella 18 mis, ar gyfartaledd, mewn 12 wythnos yn unig ac fe roddodd hynny hwb aruthrol i hyder yr unigolion hefyd.

Bellach mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn ystyried sut y gall y prosiect hwn, a’r canlyniadau ardderchog a gyflawnwyd ganddo, gael ei ail-gynnal a’i wreiddio yn y gwasanaeth er mwyn iddo gynorthwyo rhagor o bobl i ail-sylweddoli'r mwynhad a gânt wrth ddarllen.

yn ôl i'r brig