Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
29.03.06
Bydd John Toshack, cyn seren Caerdydd, Lerpwl ac Abertawe, yn Wrecsam ar 2 Ebrill i ddadorchuddio plac arbennig yn y Cae Ras i ddathlu’r hyn y credwn i fod y ffilm gyntaf o gêm ryngwladol sydd wedi goroesi.
Cynhelir y seremoni ar ganmlwyddiant y gêm rhwng Cymru ac Iwerddon a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 1906. Dywed y trefnwyr fod yr amseru’n arbennig o briodol o ystyried cychwyn Cwpan y Byd 2006 yn fuan.
Y ffilm yw’r ddiweddaraf i gael ei hanrhydeddu fel rhan o Lwybr Ffilmiau a Theledu Gogledd Cymru a grëwyd gan Gomisiwn Sgrîn Cymru.
Tynnwyd y ffilm gan yr arloeswyr ffilmiau Mitchell a Kenyon y gwelwyd eu gwaith mewn cyfres deledu ar y BBC ynghynt eleni. Mae’r ffilm ddu a gwyn heb sain sy’n para 2 funud 10 eiliad, wedi cael ei chofnodi gydag Archifau Sgrîn a Sain Cymru yn Aberystwyth.
Yn ôl pob sôn, roedd yn gêm fywiog wrth i’r bêl fyrstio ychydig cyn hanner amser. Datgelodd erthygl yn y papur newydd fod "the weather delightfully fine and the ground in perfect order." Daeth torf o ryw 5000 a 6000 o gefnogwyr i weld y gêm gyfartal o 4-4. Sgoriodd Williams Green, chwaraewr Notts County, o Aberystwyth dair gôl.
Hefyd yn edrych ymlaen at y seremoni yw cyflwynydd chwaraeon Sky Bryn Law a fydd yr MC ar gyfer yr achlysur sy’n agored i’r cyhoedd.
Ganwyd y cyflwynydd 36 oed a leolir yn Leeds yn Lerpwl a symudodd ei deulu i Riwabon pan oedd yn 8 oed. Yn gyn ddisgybl a phrif fachgen Ysgol Rhiwabon, roedd yn gefnogwr brwd o’r Robins.
Cafodd ei flas cyntaf ar ddarlledu gyda radio Ysbyty Maelor cyn mynd i weithio i Marcher Sound. Ymunodd â Sky ar ôl cyfnod gyda Cumbria Radio yn Barrow.
Bydd cof amlwg o ddiwrnod y gêm hanesyddol yn cael ei ailgreu gan ddisgyblion brwd o Ysgol St Joseph yn Wrecsam. Recriwtiwyd nhw o flynyddoedd 10 ac 11 ac eu hathro Mark Griffiths, hanesydd pêl-droed brwd a darlledwr gemau ar wefan y clwb a’r radio lleol.
Yn ôl Mark, mae nodweddion Wrecsam fel lle geni pêl-droed Cymru’n cael eu hamlygu gan gêm hanesyddol arall. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf erioed Cymru yn Wrecsam hefyd – ond nid ar y Cae Ras.
Roedd yn gêm yn 1877 yn erbyn Yr Alban ar dir yr hen blasty, Plas Acton. Bu i Gymru golli 2-0.
Dywedodd Mark: “Maen nhw wrth eu boddau’n ail-greu’r gêm a welir yn y ffilm a chwarae o flaen John Toshack – gan obeithio y bydd yn edmygus o’r hyn y mae’n ei weld.”
“Bydd yr hogiau sy’n chwarae’n chwaraewyr da ac maen nhw wedi cynhyrfu’n fawr. Byddaf yn rhoi rhai sesiynau hyfforddi iddyn nhw er mwyn dysgu rheolau pêl-droed 1906 iddyn nhw. Roedd rheolau gwahanol bryd hynny ynghyd â gwahaniaethau tactegol gyda thimau’n chwarae gyda dau amddiffynnydd. Bydd y tîm yn edrych yn od iawn!”
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 1.30 ac nid oes tâl am fynediad.