Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

17 Awst 2010

Twristiaeth yn dal i hybu economi Wrecsam

Yn ôl yr ymchwil diweddaraf a wnaed roedd twristiaeth wedi cyfrannu swm aruthrol – £79 miliwn – at economi Wrecsam y llynedd.

Roedd y ffigurau am 2009 yn dangos y bu cynnydd o £200,000 yn y swm, o gymharu â’r flwyddyn ariannol, sy’n golygu cynnydd o 4% at ei gilydd ers 2004.

Daeth mwy na 1.56 miliwn o ymwelwyr i’r fwrdeistref, gan gynnwys ymwelwyr undydd a phobl a oedd yn aros dros nos.

Cafodd yr ystadegau eu casglu ar gyfer Cyngor Wrecsam gan yr arbenigwyr ymchwil Global Tourism Solutions, gan ddefnyddio niferoedd yr ymwelwyr a gafwyd gan westai, atyniadau i ymwelwyr a busnesau eraill yn yr ardal leol.

Gyda’r ffigurau hyn fe ddefnyddir fformiwla ymchwil, a gydnabyddir yn rhyngwladol i gyfrifo’n union beth yw gwerth twristiaeth i’r economi lleol.

Mae’r broses yn cynnwys casglu a mewnbynnu meintiau aruthrol o ddata, a dyna pam mai newydd ddod i’r amlwg y mae’r canlyniadau ar gyfer 2009.

Y Cynghorydd Rodney Skelland yw’r aelod arweiniol dros adfywio a llywodraeth gorfforaethol ac meddai: “Mae twristiaeth yn hollwerthfawr i Wrecsam a rhaid inni lawn sylweddoli hynny. Felly mae cael cynnydd arall – er mai un bychan ydoedd – o gofio sefyllfa economaidd y llynedd, yn fodd i’n calonogi.

“Mae nifer fawr o swyddi a busnesau’n dibynnu ar yr ymwelwyr hynny sy’n dod i’r fwrdeistref ac mae’r math hwn o ymchwil yn rhoi awgrymiadau aruthrol i’r cyngor ynghylch sut mae economi’r dwristiaeth leol yn ffynnu o flwyddyn i flwyddyn.”

Yn ôl pob golwg fe wnaeth y tuedd ynghylch treulio gwyliau gartref, barhau yn 2009 ac roedd yn well gan ragor o ymwelwyr prin eu ceiniogau fynd ar wyliau byr yn y DU yn lle mynd dramor.

Meddai’r Cynghorydd Skelland: “Yn amlwg roedd 2009 yn flwyddyn fain i lawer o’r sectorau busnes. Eto i gyd mae’n galonogol gweld bod diwydiant twristiaeth Wrecsam wedi gallu cynnig bargen werth chweil yn y farchnad a pharhau i ffynnu.”

“Yn ôl rhai rhagolygon, bydd rhagor o bobl yn dal ati i dreulio eu gwyliau gartref – fe allai hynny hybu masnach rhai o’r busnesau twristiaeth. Fodd bynnag dim ond pan gawn ni’r ystadegau am y chwe mis cyntaf, yn ddiweddarach eleni, y byddwn ni mewn sefyllfa wirioneddol i weld yn union y dylanwad y mae’r dirwasgiad economaidd diweddar yn dal i’w gael arnom.”

yn ôl i'r brig