Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

28.07.06

Llai o Siarad a Mwy o Gerdded!

Ydych chi’n teimlo fel pe na bai gennych amser i gadw’n heini?  Beth am gymryd mantais o’r tywydd da a mynd am dro cyflym amser cinio?  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Crwydro Wrecsam a reolir gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint wedi lansio Teithiau Trefol – cynllun i helpu pobl i wneud 30 munud o ymarfer corff o leiaf 5 gwaith yr wythnos.  Mae tro cyflym amser cinio’n peri i chi deimlo’n well, yn gwella’ch ffitrwydd, gallech golli pwysau ac mae’n lleihau straen.

Mae Teithiau Trefol yn daflen sy’n cynnwys chwe thaith gerdded o gwmpas Ystad Ddiwydiannol Wrecsam y gallwch eu cwblhau mewn llai na 30 munud.  Golyga hyn y gallech eu gwneud yn eich awr ginio.

Mae 4 taflen ar gyfer pobl sy’n gweithio yng nghanol tref Wrecsam, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Ysbyty Maelor a’r Parc Technoleg ond gall ymwelwyr eu defnyddio hefyd.  Mae gan bob taflen chwe thaith y mae modd eu cwblhau o fewn 30 munud. 

Os nad ydych am gerdded ar eich pen eich hun, dewch i un o’n grwpiau cerdded yng nghanol y dref bob amser cinio am 12.30pm  yn ystod yr wyythnos sy’n dechrau ar 31 Gorffennaf.  Bydd unrhyw un sy’n dod ar daith yn ystod yr wythnos hon yn cael eu rhoi mewn lotri i ennill 1 o 20 o bedofesurwyr!

Taith y Dydd

Dydd Llun 31 Gorffennaf

Amser: 12:30pm
Man cyfarfod: Mynedfa gefn British Home Stores
Hyd: 10 -12 munud
Argymhellion: dewch â photel o ddŵr gyda chi, gwisgwch esgidiau a dillad call ac eli haul!

Dydd Mawrth 1 Awst

Amser: 12:30pm
Man cyfarfod: Ar gornel Ffordd Caer a Ffordd Holt tu blaen i’r Ffiwsiliaid Cymreig   
Hyd: 20 – 25 munud
Argymhellion: dewch â photel o ddŵr gyda chi, gwisgwch esgidiau a dillad call ac eli haul!

Dydd Mercher, 2 Awst

Amser: 12:30pm
Man cyfarfod: Mynedfa flaen Neuadd y Dref, gyferbyn â chae’r llyfrgell
Hyd: 20 munud
Argymhellion: dewch â photel o ddŵr gyda chi, gwisgwch esgidiau a dillad call ac eli haul!

Dydd Iau, 3 Awst

Amser: 12:30pm
Man cyfarfod: tu blaen i Adeiladau’r Goron
Hyd: 20 munud
Argymhellion: dewch â photel o ddŵr gyda chi, gwisgwch esgidiau a dillad call ac eli haul!

Dydd Gwener, 4 Awst

Amser: 12:30pm
Man cyfarfod: Mynedfa flaen y Llyfrgell a’r Ganolfan Gelf
Hyd: 15 -20 munud
Argymhellion: dewch â photel o ddŵr gyda chi, gwisgwch esgidiau a dillad call ac eli haul!

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Teithiau Trefol a’n grwpiau cerdded sy’n dechrau ar 31 Gorffennaf trwy gysylltu â Fiona Sammut, 01978 297063 neu Hannah Jones ar 01978 757524 neu ewch i wefan y Cyngor: www.wrecsam.gov.uk Mae’r taflenni ar gael o’r ganolfan groeso, Canolfan Fusnes Rhydfudr, yr ysbyty, adeiladau’r Cyngor yng nghanol y dref, busnesau ar yr ystad ddiwydiannol a’r parc technoleg.

yn ôl i'r brig