Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

09 Awst 2010

Gwefan newydd i wirfoddolwyr ar gael ar-lein nawr!

Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi bod ganddo bellach adran newydd i wirfoddolwyr ar wefan Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Ers blynyddoedd lawer bu nifer o wirfoddolwyr yn gwneud gwahanol fathau o dasgau er mwyn cynorthwyo i sicrhau bod pob un o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar agor ac yn hwylus i’w defnyddio. Yn y blynyddoedd diweddar mae nifer y gwirfoddolwyr wedi cynyddu’n raddol. Felly er mwyn canmol y bobl hynny sydd eisoes yn gwneud gwaith gwirfoddol, ac inni hefyd roi cyhoeddusrwydd i’r cyfleoedd sydd ar gael, rydym wedi llunio adran i wirfoddolwyr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os ydych eisoes yn gwneud gwaith gwirfoddol i’r adran, mae gwybodaeth ychwanegol i’w chael yn http://www.wrexham.gov.uk/english/leisure_tourism/prow/volunteers/index.htm neu gallwch ffonio 01978 729766.

yn ôl i'r brig