Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
21.02.07
Prosiectau cerdded yn dathlu ar ôl sicrhau cyllidGall miloedd o bobl o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint barhau i wella eu hiechyd wedi i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi ei bod wedi rhoi £437,037 i Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint i ddatblygu ymarfer corff a chyfleoedd cerdded ar draws y ddwy sir.
Ym mis Rhagfyr cafodd Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint wybod ei fod wedi llwyddo i gael cyllid am 3 blynedd gan Gronfa'r Loteri Fawr ar gyfer cynlluniau 'Walkabout' Wrecsam a Sir y Fflint. I ddathlu'r digwyddiad, ymunodd Ian Lucas AS Wrecsam a Mark Tami AS Sir y Fflint â cherddwyr ac arweinwyr cerdded gwirfoddol o'r ddau brosiect ar daith gerdded dywysedig iachus o amgylch Gwersyllt ddydd Gwener 26ain Ionawr.
Caiff y ddau brosiect, sy'n rhan o gynllun cenedlaethol 'Cerdded Llwybr Iechyd', eu rheoli gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint ac maent yn cynnal rhaglen o deithiau cerdded tywysedig iachus yn y ddwy sir. Arweinir bob taith gan arweinydd cerdded gwirfoddol hyfforddedig ac maent yn addas i bobl o bob oed a gallu.
Bydd y cyllid newydd yn dechrau ym mis Ebrill a bydd y ddau brosiect yn ymestyn i weithio gydag amrywiaeth ehangach o grwpiau targed gan gynnwys pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y prosiect hefyd yn dal i dargedu pobl sy'n eistedd llawer yn eu bywydau a phobl ag anhwylderau iechyd arbennig.
Dywedodd Ingrid Emerson MBE, Cyfarwyddwr Gweithredol Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint, ‘Mae'r Ymddiriedolaeth yn hynod falch bod y prosiectau gwych a llwyddiannus hyn wedi'u diogelu am 3 blynedd arall’.
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau, cysylltwch â Hannah Jones, Cydlynydd 'Walkabout' Wrecsam ar 01978 757524 neu Ian Gibbons, Cydlynydd Sir y Fflint ar 01352 702487.