Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

28.06.06

Ymgeisio i’r Gronfa Deddfau Eglwysi Cymru

Fis Medi diwethaf, rhoddodd y Cyngor grantiau gwerth £8,541 o gronfa’r Deddfau Eglwysi Cymru. Rhoddwyd y grantiau hyn i 22 o gyrff a oedd yn chwilio am gymorth i dalu am gyfarpar neu brosiectau penodol, megis gwaith adnewyddu. Defnyddir y gronfa i ddarparu cymorth ariannol at ddibenion elusennol i gyrff sy’n gweithredu yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac ag amcanion sy’n bodloni meini prawf y cynllun.

Ystyrir ceisiadau ym mis Medi 2006 a gofynnir i gyrff sydd â diddordeb gyflwyno ffurflen gais erbyn 31 Gorffennaf 2006. Gofynnir i ymgeiswyr sydd wedi derbyn grant yn y ddwy flynedd flaenorol i nodi nad yw cais arall yn debygol o lwyddo.

Rhoddir blaenoriaeth i gyrff sy’n cefnogi cyfleusterau cymunedol a hamdden, addoldai a mynwentydd, pobl ddall a’r henoed. Y swm uchaf y gellir ei roi yw £500.

Gallwch gael ffurflenni gais a rhestr o’r meini prawf o wefan y Cyngor, sef www.wrecsam.gov.uk, trwy’r post gan y Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR neu dros y ffôn gan Mrs J Jones (01978) 292716.

yn ôl i'r brig