Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
02 Mawrth 2010
Daeth Ffordd Fynediad Stad Ddiwydiannol Wrecsam gam yn nes at ei gwireddu heddiw yn dilyn cyhoeddiad y Cynulliad Cenedlaethol i Gyngor Wrecsam y bydd yn parhau cymorth ariannol ar gyfer 2010/11.
Mae’r cyllid ar gyfer parhau gwaith datblygu’r cynllun yn ystod 2010/11 a chroesawyd hyn gan y Cynghorydd David Bithell, yr Aelod Arweiniol ar yr Amgylchedd a Chludiant, a ddywedodd:
“Mae hyn yn newyddion gwych i Wrecsam gyfan. Bydd llwybrau newydd i’n stad ddiwydiannol yn dod â buddiannau economaidd i Wrecsam ac yn sicrhau dyfodol hirdymor y stad ddiwydiannol.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Cynulliad am y grant sy’n cydnabod pwysigrwydd gwell cysylltiadau cludiant ag un o’r stadau diwydiannol mwyaf y wlad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl swyddogion sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cymorth ariannol hwn yn gweld gwireddu’r prosiect.”
Erbyn hyn mae’r Cyngor yn aros am Benderfyniad y Gweinidog ar Orchmynion Prynu Gorfodol a Ffyrdd Croes, yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus ym mis Hydref y llynedd.
Yn amodol ar gadarnhau’r Gorchmynion hynny, y disgwyl yw y bydd gwaith adeiladu’n dechrau yng ngwanwyn 2011 yn dilyn gwaith amgylcheddol o flaen llaw gan gynnwys darparu dyfodol diogel i Fadfallod Dwr Cribog, ystlumod a moch daear ar hyd y llwybr. Bydd gwaith o flaen llaw hefyd yn cynnwys ffensys, clirio’r safle a dargyfeirio prif bibell nwy gwasgedd uchel.
Bydd cadarnhau Gorchmynion yn caniatáu’r broses fydd yn arwain at benodi’r contractwr Dylunio ac Adeiladu i ddechrau o ddifrif.