Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
30 Rhagfyr 2011
Bydd modd Ailgylchu Coed Nadolig unwaith eto ym Mharc Bellevue yng nghanol tref Wrecsam.
Mae’r digwyddiad yn rhoi’r cyfle i drigolion ailgylchu eu coed Nadolig go iawn a gwneud rhywbeth er budd yr amgylchedd.
Bydd y coed yn cael eu malu a’u defnyddio ar welyau llwyni yn y parc. Amser y digwyddiad fydd rhwng 9am a 12pm ar Ddydd Mawrth Ionawr 10fed ond gallwch gymryd coed yno cyn y diwrnod hefyd. Dylid cymryd pob coeden i’r maes parcio gerllaw’r ystafelloedd newid oddi ar Ffordd Bellevue.
Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n trefnu’r digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog y Parc os gwelwch yn dda ar 01978 264150 neu bellevue.park@wrexham.gov.uk