Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

10 Mawrth 2010

Tîm Arlwyo’n Ennill Prif Wobr

Tîm Arlwyo Ysgol Heulfan ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol am ei wasanaeth rhagorol i ddisgyblion.

Enillodd y tîm wobr Tîm Arlwyo’r Flwyddyn yn Ysgolion Cynradd Cymru yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd y mis diwethaf.

Canmolwyd y tîm am ei gyfraniad neilltuol a thynnu sylw at y gwasanaeth rhagorol yn yr ysgol, a chanmolwyd ei 'ymroddiad ac ymrwymiad i ddarparu bwyd da, llesol i ddisgyblion'.

Mae’r tîm wedi derbyn yr holl heriau newydd yn frwd, a chefnogi agwedd ysgol gyfan Heulfan i iechyd a ffyniant. Mae gan y tîm gyfanswm o 72 mlynedd o brofiad o arlwyo mewn ysgolion, ac mae’r cymhelliad ac agwedd gadarnhaol yn dal mor gryf ag erioed.

Y tîm a enillodd y wobr hon yw Mrs Dilys Jones, Cogydd mewn Gofal a chynorthwywyr arlwyo Pam Woodfine, Debbie Jones a Maureen Curtis.

Canmolodd Mrs Julie Thomas-Haigh, y Pennaeth sy’n gefnogol dros ben o’i thîm arlwyo, staff y gegin am eu ffyddlondeb ac ymroddiad drwy’r blynyddoedd.

Meddai Mrs Thomas-Haigh:

"Rydym yn ystyried bod staff ein ffreutur yn bobl arbennig. Heb Dilys a’r tîm byddem yn ymgodymu gyda llawer o’r cynlluniau a gyflwynwyd gennym yn ystod y 2 flynedd diwethaf."

Mae’r Cynghorydd Arfon Jones hefyd yn cefnogi’r tîm arlwyo yn Ysgol Heulfan yn gryf iawn, yn enwedig o ran y gymuned leol a Chlwb Cinio sydd newydd ei agor, lle mae Dilys a’i thîm yn paratoi a choginio prydau ffres bob wythnos.

Meddai’r Cynghorydd Jones:

"Mae Mrs Jones a’i thîm yn gwneud mwy na’r hyn sy’n ofynnol nac sydd i’w ddisgwyl o ran cydlynu cymunedol a chefnogi agenda Gofal Parhaus Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

Meddai Lynda Wright, Rheolwr Arlwyo Gwasanaeth Prydau Ysgolion Wrecsam:

"Mae’r wobr hon yn anrhydedd sylweddol i dîm arlwyo Ysgol Heulfan. Mae Dilys a’i chynorthwywyr arlwyo’n llawn deilwng o ganmoliaeth a chydnabyddiaeth y diwydiant."

yn ôl i'r brig