Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
25 Chwefror 2010
Yn dilyn gweithredu ar y cyd rhwng Safonau Masnachu Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru, atafaelwyd asedau dyn o Wolverhampton a gafwyd gyda nwyddau ffug yn ei feddiant dan Ddeddf Elw Troseddau.
Ar 6 Gorffennaf 2008 atafaelodd Swyddogion Safonau Masnachu dros 500 o eitemau dillad ffug o stondin yn cael ei rhedeg yn Ffair Cist Ceir y Waun gan Adil Haq o Goldthorn Road, Wolverhampton a’i ewythr, Mohammed Haq, hefyd o Wolverhampton. Ar 12 Hydref 2009 yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, roedd y ddau ddyn wedi pledio’n euog o gyhuddiadau dan Ddeddf Nodau Masnach. Cafodd y ddau ohonynt ddedfryd ohiriedig o garchar a’u gorchymyn i wneud 100 awr wasanaeth cymunedol. Hefyd, gorchmynnodd y Llys y eu dylid archwilio eu materion ariannol dan Ddeddf Elw Troseddau.
Yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug ar 19 Chwefror 2010, yn dilyn yr ymchwiliad ariannol gan ymchwilydd ariannol arbenigol Heddlu Gogledd Cymru, dyfarnodd y Llys bod gan Adil Haq asedau a gafwyd o weithgaredd troseddol ac atafaelwyd £51,700, y mae’n rhaid iddo ei dalu cyn pen 6 mis. Os nad yw’n cydymffurfio â’r gorchymyn atafaelu mae’n wynebu hyd at 18 mis o garchar ond bydd yn dal i fod yn atebol i gydymffurfio â’r gorchymyn atafaelu ar ôl ei ryddhau. Cafodd y Llys nad oedd gan Mohammed Haq unrhyw asedau i’w hatafaelu a chafodd orchymyn i dalu swm enwol o £1.
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol ar yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae hwn yn ganlyniad rhagorol ac mae’n dangos manteision gweithio ar y cyd rhwng Safonau Masnachu a’r Heddlu. Dylai pawb sy’n delio mewn nwyddau ffug fod yn ymwybodol o’r canlyniadau os cânt eu dal. Byddant yn wynebu dirwyon trwm a’u dedfrydu i garchar ac, erbyn hyn, rydym yn ystyried ymchwiliadau Deddf Elw Troseddau ym mhob achos. Mae ymchwiliadau ariannol yn mynd yn ôl dros chwe blynedd a gall diffynyddion golli unrhyw asedau sydd ganddynt gan gynnwys cartrefi, ceir ac arian parod a gafwyd o ganlyniad i weithgaredd troseddol. Mae gan Safonau Masnachu achosion eraill Derbyniadau o Drosedd ar y gweill a byddant yn cymryd holl gamau posibl i annog pobl rhag yn gwerthu nwyddau ffug.”