Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
24 Medi 2008
Wrecsam yn ymateb i ymgynghoriad ar rwydwaith y rheilffyrdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y strategaeth a ryddhawyd yn ddiweddar gan Network Rail sef Strategaeth Defnyddio Llwybrau (SDLl) Cymru. Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill a chonsortiwm trafnidiaeth ranbarthol Gogledd Cymru yn ogystal â Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau gwelliannau i gyfleusterau rheilffyrdd a sicrhau defnydd gwell o wasanaethau rheilffordd yn y Fwrdeistref Sirol a’r rhanbarth yn ehangach. Dyma’r hyn sydd wedi arwain at gyflwyno cyfleusterau gwell yng ngorsafoedd Wrecsam Cyffredinol, Y Waun a Rhiwabon yn ddiweddar.
Mae’r cynnydd o ran y defnydd a wneir o’r rheilffordd yng ngorsafoedd Wrecsam Cyffredinol, Rhiwabon a’r Waun wedi bod yn uwch na’r lefel yn y DU ar gyfartaledd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Achoswyd hyn gan y cynnydd yn nifer y gwasanaethau a gwaith blaengar y Gweithgor Rheilffordd Aelodau Lleol sydd wedi codi proffil y rheilffordd yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae gorsafoedd Wrecsam Canolog, Wrecsam Cyffredinol a Gwersyllt yn parhau i gael budd o wasanaeth sy’n rhedeg bob awr i Bidston sy’n cysylltu â rhwydwaith drydanol Merseyrail ar gyfer teithio oddi yno i Lerpwl a gorsafoedd eraill yn ardal Cilgwri. Ar 28 Ebrill 2008 dechreuodd Wrecsam a Sir Amwythig weithredu gwasanaethau dwyffordd 5 dydd yr wythnos yn galw yng ngorsafoedd Wrecsam Cyffredinol, Rhiwabon a’r Waun sy’n boblogaidd ymhlith teithwyr rheilffordd presennol a rhai newydd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gwblhau astudiaethau dichonoldeb ar reilffyrdd Wrecsam - Bidston a Chaer - Wrecsam - Amwythig yn ddiweddar. Yn eu tro mae’r astudiaethau hyn wedi nodi cyfleoedd i wella cymhwysedd y rheilffordd, perfformiad gwasanaethau ac opsiynau i agor neu ail-agor gorsafoedd yn y Fwrdeistref Sirol. Cyfeirir at y ddwy astudiaeth hyn yn fersiwn ddrafft y Strategaeth Defnyddio Llwybrau.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Cynghorydd David Bithell, “Mae rhai newidiadau cadarnhaol wedi’u gwneud i drafnidiaeth ar y rheilffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol ac mae parodrwydd i wella gwasanaethau’r rheilffordd i deithwyr sy’n teithio i’r Fwrdeistref Sirol, trwyddi ac oddi yno. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn parhau i fod â rôl allweddol yn y broses o lunio dyfodol teithio ar y rheilffordd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddeniadol i fusnesau, ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd.” Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Ym mis Rhagfyr 2008 caiff amserlen newydd ei chyflwyno. Ymhlith y cynigion mae gwasanaeth penwythnos uniongyrchol dwyffordd o Wrecsam i Lundain a fydd yn dychwelyd drwy Gaer a weithredir gan Virgin Trains, gwelliannau i wasanaethau Trenau Arriva Cymru i wasanaethu Birmingham International ar gyfer y maes awyr a NEC ac amseroedd teithio byrrach ar gyfer gwasanaeth rheilffordd Wrecsam a Sir Amwythig i Lundain Marylebone.”
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Virgin Trains yn bwriadu cynnal gwasanaeth trên cyflym o Wrecsam i Lundain drwy Gaer ar Brif Reilffordd Arfordir y Gorllewin gyda Virgin Voyager (yn gadael Wrecsam Cyffredinol am 0659), hyd y daith fydd 2 awr 30 munud yn fras.
Mae Trenau Arriva Cymru yn bwriadu ymestyn gwasanaethau o orsaf Birmingham New Street i Birmingham International sy’n gwasanaethu’r Maes Awyr a NEC. Disgwylir i’r gwasanaeth hwn, a weithredid o Gaer gynt, fod ar waith o Gaergybi gan ddarparu gwasanaethau trwodd uniongyrchol o’r rhan fwyaf o orsafoedd yng Ngogledd Cymru i Wrecsam ac oddi yno. Ynghyd â’r gwasanaeth presennol o Gaergybi i Gaerdydd bydd hyn yn cyflwyno amserlen reilffordd uniongyrchol bob awr yn cysylltu gorsafoedd Wrecsam, Rhiwabon a’r Waun a llawer iawn mwy o orsafoedd yng Ngogledd Cymru.
Lleihaodd Rheilffyrdd Wrecsam a Sir Amwythig amseroedd i Lundain ar y gwasanaeth dwyffordd pum trên yr wythnos. Ar hyn o bryd mae pedwar trên dwy ffordd ar ddydd Sadwrn a thri thrên dwy ffordd ar gael ar ddydd Sul.
Amlygodd y Strategaeth Defnyddio Ffyrdd, ymhlith pethau eraill, gyfyngiadau o ran cymhwysedd rhwng Wrecsam a Chaer ar y rheilffordd unigol a nodwyd yn flaenorol gan astudiaeth Scott Wilson.
|