Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

15 Rhagfyr 2011

Cardiau Rheilffordd rhatach i bobl hŷn y Nadolig yma

Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam hyn a hyn o Gardiau Rheilffordd ar gael i Bobl Hŷn, i’w gwerthu am bris disgownt o £24.50, sydd £3.50 yn llai na’r pris manwerthu sy’n cael ei argymell ar hyn o bryd.

Y Cynghorydd David Bithell yw’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac meddai:

“Dros y Nadolig mae llawer o bobl yn bwriadu mynd i weld eu ffrindiau a’u perthnasau, neu fynd ar wibdaith undydd o bosibl, ac felly mae’n adeg ardderchog iddynt brynu Cerdyn Rheilffordd i Bobl Hŷn er mwyn elwa ar y pris rhatach. Byddwn yn annog trigolion lleol i fanteisio ar y cynnig presennol, er mwyn iddynt fod ar eu hennill dros y ’Dolig a dal ati i arbed arian yn 2012.”

Mae Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y maent yn cael eu dosbarthu ac maent yn caniatáu i ddeiliaid y cerdyn dalu traean yn llai am bob tocyn Unrhyw Bryd, Oriau Llai Prysur ac Ymlaen Llaw pan fyddant yn defnyddio’r Rhwydwaith Rheilffordd Cenedlaethol .

Dim ond i bob person dros 60 oed, ac sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, y mae’r cynnig hwn ar gael. Mae Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn ar gael i’w prynu gan Cyswllt Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, ond bydd rhaid ichi brofi lle’r ydych yn byw a faint yw’ch oed er mwyn gwneud hynny.

yn ôl i'r brig