Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
06 Rhagfyr 2011
Mae mwy a mwy o bobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn teithio ar y trên.
Mae pum gorsaf yn y Fwrdeistref Sirol, sef Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, Wrecsam Canolog, Gwersyllt, Rhiwabon a’r Waun, ac yn ôl data Swyddfa Rheolydd y Rheilffyrdd cafwyd cynnydd yn y siwrneiau rheilffordd ym mhob un ohonynt - cynnydd o 49% ers 2005. Yn Rhiwabon lle cafodd cynllun cyfnewid rheilffordd ei sefydlu, bu’r cynnydd yn nifer y teithwyr yn drawiadol dros ben; 79%.
Y Cynghorydd David Bithell yw’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth. Mae ef hefyd yn aelod o fwrdd TAITH, ac meddai,
“Newyddion bendigedig sy’n profi bod gwir angen inni sicrhau bod ein rheilffyrdd yn bodloni anghenion a disgwyliadau’r teithwyr. Rydym ni, y cyngor, ynghyd â’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol TAITH wedi buddsoddi mewn gwella ein gorsafoedd a’r cyfleusterau sydd ynddynt. Ers tro byd bu Cyngor Wrecsam yn pwyso am welliannau yn yr wybodaeth i gwsmeriaid ar reilffordd y Gororau a da o beth yw gweld bellach bod pob un o’r gorsafoedd yn meddu ar y sgriniau diweddaraf un sy’n rhoi’r wybodaeth amser real i’r cwsmeriaid.”
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafodd y meysydd parcio eu hehangu a’u cwblhau yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam, y Waun a Rhiwabon. Yn y misoedd nesaf bydd gwaith yn mynd rhagddo ar ehangu’r system Teledu Cylch Cau ym maes parcio Gorsaf y Waun a Gorsaf Gyffredinol Wrecsam ynghyd â system gyflawn Teledu Cylch Cau yng Ngorsaf Rhiwabon. Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam er mwyn cael mynediad lifft i Blatfform 4, ar Reilffordd y Gororau i Lerpwl. Fe wneir hyn trwy Raglen Wella’r Gorsafoedd Cenedlaethol, a’r gost fydd £1.5 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell hefyd bod mwy na £2.3 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yng ngorsafoedd Wrecsam yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, er mwyn gwella’r cyfleusterau i’r teithwyr. “Mae’r rheilffordd yn rhan bwysig o’n strategaeth trafnidiaeth ac mae’r gwelliannau hyn yn rhan o gynllun hirdymor er mwyn sicrhau y byddwn yn bodloni anghenion y teithwyr,” meddai.