Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
16 Ebrill 2008
Wythnos Cewynnau Go Iawn 2008 (21 - 27 Ebrill) - Mae'n bryd am Newid Go Iawn
Cewynnau go iawn - twt, iach a chysurus. Oes dewis arall?
Mae mwy a mwy o rieni'n sylweddoli bod modd arbed gwastraff y teulu o'i hanner ac arbed cannoedd o bunnoedd yr un pryd trwy ddefnyddio cewynnau go iawn!
Y tyb yw mai 'gwaith anodd' yw cewynnau go iawn ond dyw hynny ddim yn wir. Y cwbl mae angen ei wneud yw rhoi'r cewyn yn y peiriant golchi a chael gwared ar y leinin yn y tŷ bach. Mae'r cewynnau modern yn hawdd eu bachu a gallwch chi eu golchi ynghyd â dillad eich plentyn neu ar wahân ar 60o C (ddwywaith yr wythnos, fel arfer). Does dim angen eu trochi na'u berwi.
Ydych chi'n gwybod?
- Mae pob plentyn yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau dros 2½ flynedd. Maen nhw'n ddigon i lenwi 156 o fagiau du, yn pwyso cymaint â char y teulu ac yn costio rhwng £700 a £1,300.
- Mae pobl Cymru yn taflu rhyw 200 miliwn o gewynnau bob blwyddyn. Dyna 38,000 o dunelli o sbwriel i'w gladdu'n ddiangen. £2 miliwn yw cost cael gwared arnyn nhw i'r trethdalwyr – ac mae hynny ar fin codi.
- Dim ond ar ôl 300 o flynyddoedd y bydd cewyn yn pydru yn y ddaear. Wrth bydru, mae'n creu methan sy'n waeth na Co2 o ran nwyon tŷ gwydr.
Cewynnau go iawn
- Eithaf rhad (£75) a gallwch chi eu defnyddio ar gyfer plant eraill.
- Tua £1 yr wythnos i'w golchi gartref – yn llai fyth o ddefnyddio peiriant golchi sy'n arbed ynni a'u taenu tu allan i sychu.
- Dim brech clytiau na chemegion sy'n sychu croen y baban.
- Helpu plant i sefyll yn syth trwy gynnal eu cluniau yn y lle iawn.
- Galluogi baban i roi'r gorau iddyn nhw yn gynt am ei fod yn cysylltu gwagio ei bledren â theimlo'n wlyb.
Cewch chi ragor o wybodaeth am ddefnyddio a phrynu cewynnau trwy ffonio 0845 456 2477 neu gyrchu www.realnappies-wales.org.uk or Strydoedd o Fri 01978 298989 cysylltwch@wrexham.gov.uk
|