Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

16 Mehefin 2009

Gwasanaeth Coffa Blynyddol

Caiff ‘Gwasanaeth Coffa Blynyddol’ Mynwent Wrecsam (Pentrebychan), ei gynnal eleni yng Nghapel yr Amlosgfa ddydd Sul 5 Gorffennaf 2009, am 2.00 pm, ym mhresenoldeb Anrhydeddus Faer Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones.

Caiff y gwasanaeth ei arwain gan y Parchedig Ganon David Griffiths. Mae’r gwasanaeth syml hwn yn rhoi’r cyfle i’r rheiny sydd wedi colli anwyliaid, cyfaill neu berthynas, i ymuno ag eraill er cof amdanynt.

Bydd adeiladau’r Amlosgfa ar agor i’r cyhoedd o 12 hanner dydd a bydd staff wrth law i ateb cwestiynau am faterion sy’n ymwneud â’r amlosgfa. Mae rhagor o fanylion ar gael o Swyddfa’r Amlosgfa ar 01978 840068 neu www.crematorium@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig