skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


12 Medi 2008

Cau Ffordd i Symud Craen

Bydd y ffordd newydd o amgylch Dôl yr Eryrod ar gau i draffig drwodd ddydd Mawrth 16eg Medi. Rhaid cau i alluogi Wilson Bowden Ltd i ddatgymalu un o’r craeniau mawr a ddefnyddiwyd ers yn gynnar yn y broses adeiladu.

Bydd traffig sy’n teithio i mewn i Wrecsam ar hyd yr A525 Ffordd Sir Amwythig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Rhodfa San Silyn ac o amgylch yr A5152 Ffordd Gylchol Fewnol. Cedwir mynediad at Ffordd Caia, Ffordd y Nant a Stryt y Marchog drwy’r amser.

Bydd y ffordd yn cau ar ôl 9.30 am ac ailagor brynhawn ddydd Mercher 17eg Medi.

Gofynnir i yrrwyr ganiatau amser ychwanegol ar gyfer teithiau, gan y disgwylir oedi, yn arbennig yn ystod cyfnodau traffig trwm.

Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau ynghylch rheoli traffig cysylltwch â Geraint Jones ar 01978 296015.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint