skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


02 Medi 2008

Y Cymry Brenhinol i dderbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol

Bydd milwyr o’r Cymry Brenhinol yn gorymdeithio drwy strydoedd Wrecsam ddydd Sadwrn 6 Medi i ddathlu derbyn gwobr Rhyddid er Anrhydedd y Fwrdeistref Sirol gan y Cyngor.

Mae’r Rhyddid yn rhoi’r hawl i’r gatrawd orymdeithio drwy strydoedd Wrecsam yn ystod seremonïau o bob math gyda’u Baneri’y=n chwifio, Bidogau wrth law, Drymiau yn curo a Bandiau yn chwarae.

Bydd y parêd yn gorymdeithio o’r Barics yn Hightown am 2.30pm ac yn cyrraedd Lawnt Llwyn Isaf am tua 3.00pm. Bydd eu llwybr yn mynd â nhw ar hyd Ffordd Melin y Nant, Ffordd Sir Amwythig a Stryt y Marchog lle y bydd aelodau o Gymdeithas Cymrodorion y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ymuno â nhw. Yna byddant yn parhau ar hyd Stryt Yorke, y Stryd Fawr, Stryd Gobaith, Stryt Argyll a Sgwâr y Frenhines.

Ar ôl ymgynnull ar Lwyn Isaf, bydd y Maer, y Cynghorydd David J Griffiths, yn annerch ac yn archwilio’r Parêd gan gyflwyno Sgrôl Rhyddid i Gyrnol y Gatrawd.

Dywedodd y Maer ei fod “wrth ei fodd bod y Cymry Brenhinol yn cael eu hanrhydeddu yn y fath fodd, sydd yr un modd â’u rhagflaenwyr, yn enwedig y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn rhoi gwasanaeth ymroddedig i’n Brenhines a’n Gwlad a bydd yr anrhydedd hon yn atgyfnerthu’r cysylltiad agos rhwng y Gatrawd a’r Fwrdeistref Sirol”

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint