Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
11 Mehefin 2012
Myfyrwyr y Pedair Gwlad yn anelu’r gic gyntaf yn Wythnos Rygbi’r Gynghrair WrecsamMi fydd myfyrwyr o bedair gwlad yn dechrau gwledd o Rygbi 13 yn Wrecsam wythnos yma.
Am 2.30pm ar ddydd Sadwrn, yr 16eg o Fehefin, mi fydd arwyr Cymru’n herio Ffrainc ar faes Cae Ras Prifysgol Glyndŵr wrth i’r ddau dîm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2013.
Fel tamaid i ddisgwyl pryd, mi fydd Wrecsam hefyd yn croesawu Pencampwriaeth Myfyrwyr y Pedair Gwlad 2012, wrth i Gymru, Yr Alban, Iwerddon a Lloegr fwrw ati am yr oruchafiaeth.
Mae Cymru’n medru troi at brofiad a gallu prif hyfforddwr Crusaders y Gogledd, Clive Griffiths, wrth iddyn nhw geisio cipio’r goron oddi wrth y Saeson.
Mae tocynnau ar gyfer pob gêm ar gael o adran digwyddiadau www.glyndwr.ac.uk
Mi fydd pob gêm yn cael ei chynnal ar faes Cae Ras Prifysgol Glyndŵr. Dyma’r manylion:-
Dydd Lun, 11 Mehefin
Iwerddon vs Lloegr 5.00pm
Cymru vs Yr Alban 7.00pm
Dydd Mercher, 13 Mehefin
Yr Alban vs Lloegr 5.00pm
Cymru vs Iwerddon 7.00pm
Dydd Gwener, 15 Mehefin
Yr Alban vs Iwerddon 5.00pm
Cymru vs Lloegr 7.00pm.
Oedolyn
£6.00 y noson
£15.00 tocyn digwyddiad
Gostyngiad (dros 65, myfyriwr, plentyn o dan 16, anabl)
£4.00 y noson
£10.00 tocyn digwyddiad
Teulu (dau oedolyn a dau blentyn)
£18.00 y noson
£50.00 tocyn digwyddiad
Pab o dan 7 oed yn rhad ac am ddim!
Mae pob tocyn ar gyfer pob gêm ar gael o www.glyndwr.ac.uk