Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
04 Mawrth 2010
Pencampwr Cystadleuaeth SelsigMae cystadleuaeth selsig flynyddol Wrecsam wedi dod â llwyddiant triphlyg i Siop Fferm Lewis. Bachodd y cigydd o Eutun y fedal uchaf ymhob un o’r tri chategori, oedd yn cynnwys ‘Selsig Porc Traddodiadol Gorau’, ‘Selsig Arbenigol Gorau’ a’r ‘Enillydd At Ei Gilydd’.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam ac roedd yn agored i gigyddion ymhob rhan o’r fwrdeistref. Roedd pob un yn gorfod gwneud argraff ar Dennis Elliot, beirniad proffesiynol, gyda’u gallu i gonsurio selsigen flasus, wreiddiol, o ddim byd o gwbl. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Siop Fferm Lewis wneud argraff fwyaf ar ôl bod yn fuddugol y llynedd pan oedd gan y gystadleuaeth ond y categori gwreiddiol o ‘selsig porc gorau’.
Cynigiodd 9 o wahanol gigyddion o bob rhan o’r rhanbarth yn y gystadleuaeth, pob un yn cynnig selsigen yn y ddau gategori, gan olygu bod 18 o wahanol selsig yn cael eu beirniadu. Gwnaeth Dennis Elliot sylw ar safon ac ymdrech y cystadleuwyr: “Roedd y safon yn arbennig dros ben. Dylai pob un o’r cystadleuwyr a Wrecsam gyfan fod yn falch iawn o’r cynnyrch lleol.”
Nid Siop Fferm Lewis oedd yr unig gigyddion â rhywbeth i’w ddathlu. RS Williams & Son (yn Stryt y Banc, Wrecsam) a D&J Thomas (Ffordd y Gardden, Rhos) y ddau wedi gorffen yn y tri uchaf ymhob categori – RS Williams & Son oedd yr ail orau gyda’u selsigen porc traddodiadol, tra bo D&J Thomas wedi dod yn ail gyda’u selsigen arbenigol. Daeth y ddau’n drydydd yn y categori priodol lle nad oeddent yn ail.