Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
10 Chwefror 2012
Bydd Gorymdaith flynyddol Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth 1af a bydd yn cychwyn yn Nôl yr Eryrod am 1.30pm.
Yna bydd yr orymdaith yn symud drwy ganol tref Wrecsam gan deithio drwy’r strydoedd a ganlyn; Ffordd Smithfield, Stryt Siarl, y Ffordd Fawr, Stryt yr Arglwydd, Stryt y Rhaglaw, Egerton Street a Stryt yr Arglwydd i Sgwâr y Frenhines ac yna i Lwyn Isaf. Yn Llwyn Isaf, bydd anerchiad byr gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ian Roberts a bydd pawb yn canu’r Anthem Genedlaethol. Yn dilyn yr orymdaith, bydd bandiau lleol yn darparu cerddoriaeth ar safle’r seindorf ar Lwyn Isaf a bydd stondin neu ddwy i ymweld â nhw ar y grîn.
Mae croeso i bawb ymuno â’r orymdaith, o’r dechrau yn Nôl yr Eryrod neu o unrhyw le ar hyd y daith. Gofynnwn i grwpiau gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â’r orymdaith gyda’r trefnwyr o flaen llaw drwy ffonio 01978 292536.
Meddai’r Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol dros Adfywiad a Llywodraethu Corfforaethol,
‘Bydd Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi gyda Gorymdaith ar Fawrth 1af ac yn dilyn hynny bydd marchnad ar Fawrth y 3ydd. Byddwn yn annog pawb i ddod draw i gefnogi’r ddau ddigwyddiad rhagorol yma. Mae Dydd Gŵyl Ddewi’n ddiwrnod i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig; mae’r orymdaith wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol gwych a gobeithio y bydd yn denu mwy o wylwyr nag erioed eleni i lenwi’r strydoedd a’n helpu i ddathlu.’
Bydd Marchnad Gŵyl Ddewi ar Ddydd Sadwrn Mawrth 3ydd o 10am hyd 4pm ar Sgwâr y Frenhines, Wrecsam. Bydd y farchnad flynyddol yn cynnwys mwy na 50 o stondinau yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys bwydydd a chrefftau Cymreig. Bydd sioeau coginio hefyd, gweithgareddau i blant, peintio wynebau a Chystadleuaeth Selsig Gorau Wrecsam 2012. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r digwyddiadau Dydd Gŵyl Ddewi neu i rentu stondin yn y farchnad, ffoniwch 01978 292536 os gwelwch yn dda.