Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
15 Rhagfyr 2011
Myfyrwyr sy’n ddawnswyr dawnusBu un ar bymtheg o fyfyrwyr dawnus Ysgol y Grango, Wrecsam, yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dawns Stryd y Sefydliad Dawns Unedig Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Blackpool yn ddiweddar.
Bu’r grŵp dawns o Wrecsam yn cystadlu yn y categori 11-14 oed yn erbyn mwy na deg ar hugain o dimau o bob rhan o’r DU. Ac ar ôl rhoi perfformiad penigamp yn eu categori fe wnaethant lwyddo i ddod yn bedwerydd, ac ennill medal.
tro cyntaf i’r grŵp roi cynnig ar ddawns stryd oedd yn rhaglen 5x60 Chwaraeon Cymru, sy’n darparu chwaraeon allgwricwlaidd, a chaiff y rhaglen ei chynnal, yn lleol, gan adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Wrecsam. Mae’r grŵp wedi hybu dawns stryd ers hynny.
Rebecca Phillips yw’r Swyddog 5x60 yn Ysgol y Grango ac meddai:
“Mae llwyddiant y tîm yn haeddiannol iawn ac mae’n profi pa mor ymroddedig yw’r myfyrwyr. Maent wedi mynd i’r sesiynau wythnosol yn rheolaidd a chydweithio gydag Urban Fusion. Mae’r sgiliau a ddysgwyd gan y myfyrwyr mewn chwinciad chwannen wedi eu galluogi i gystadlu yn erbyn grwpiau dawns sydd eisoes wedi ennill eu plwyf.”
Y Cynghorydd Bob Dutton OBE yw’r Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad ac meddai:
“Rwyf yn hynod falch dros y myfyrwyr ymroddedig yn Ysgol y Grango a’r tîm 5x60 hefyd. Bwriad y rhaglen chwaraeon ysgol ychwanegol yw cynnig cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar y nifer fawr o wahanol fathau o weithgareddau corfforol sydd ar gael a sicrhau bod cymryd rhan mewn chwaraeon yn fater hwyliog i bawb.”