Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
04 Ionawr 2012
Heddiw (Dydd Mercher, 4 Ionawr 2012) lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei Bolisi Di-Fwg sy'n anelu at greu amgylchedd di-fwg i bawb sy'n ymweld ag adeiladau a thiroedd y Bwrdd yng Ngogledd Cymru
O ddydd Mercher 4 Ionawr 2012, ni fydd staff, contractwyr, cleifion ac ymwelwyr yn cael ysmygu yn adeiladau neu ar diroedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn cynnwys mynedfeydd ysbytai a meysydd parcio.
Mae rhagor o wybodaeth ar Bolisi Di-Fwg y Bwrdd Iechyd ar gael yn www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/55951
Yn ôl Andrew Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel sefydliad iechyd cyhoeddus gweithredol, ein nod yw gwneud yn ogystal â dweud.
"Amcangyfrifir yr achosir 1,300 o farwolaethau bob blwyddyn ar draws Gogledd Cymru gan ysmygu ac ysmygu ydy prif achos marwolaeth gynamserol ac afiechyd y gellid eu hosgoi yng Nghymru.
“Rydym wedi ymrwymo i’n strategaeth dybaco a chynllun gweithredu cynhwysfawr sy'n cynnwys cymorth i roi’r gorau i ysmygu i bobl cyn-llawdriniaeth, merched beichiog a'u partneriaid a phobl ag anghenion iechyd meddwl neu gyflyrau iechyd cronig.
“Mae’r Polisi Di-Fwg newydd hefyd yn pwysleisio’n hymrwymiad i helpu’n staff i roi’r gorau i ysmygu trwy roi chwe awr ar y mwyaf o amser i ffwrdd â thâl dros gyfnod o wyth wythnos er mwyn iddynt fynd i sesiynau Dim Smygu Cymru neu Smoke Free England.
“Mae holl fyrddau iechyd Cymru wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i leihau’r nifer o bobl sy’n ysmygu o 24% i 16% erbyn 2020, felly mae’n amlwg pam fod lleihau’r nifer o ysmygwyr yn un o’n prif flaenoriaethau.”
Codir arwyddion newydd ar diroedd y bwrdd iechyd er mwyn atgoffa staff, ymwelwyr a chleifion nad ydynt yn gallu ysmygu yn y lle ac ym mhob prif fynedfa bydd larwm ar uchelseinydd yn canu pan fydd rhywun yn ysmygu yn y lle hwnnw.
Yn ôl yr Athro Matthew Makin, Pennaeth Staff Grŵp Rhaglen Glinigol Canser a Meddygaeth Liniarol a Hyrwyddwr Atal Tybaco i’r Bwrdd Iechyd: “Bydd ymwelwyr nad ydynt efallai'n gwybod am y polisi ac sy'n dal i ysmygu ar ein tiroedd yn cael eu hysbysu’n gwrtais, ond yn gadarn, eu bod yn mynd yn groes i’r polisi newydd a byddwn yn gofyn iddynt roi’r gorau i ysmygu, neu i wneud hynny i ffwrdd oddi wrth diroedd y bwrdd iechyd.
“Mae pobl sy’n ysmygu wrth fynedfeydd ein hadeiladau neu ar ein tiroedd yn rhoi argraff wael iawn ac mae'n golygu bod y rhai sy'n dod i mewn ac yn gadael yr adeiladau'n gorfod pasio trwy fwg tybaco.
“Rwyf yn sicr fod y mwyafrif helaeth o staff, ymwelwyr a chleifion am gael amgylchedd di-fwg a'u bod yn cytuno bod pobl sy'n ysmygu y tu allan i fynedfeydd ysbytai'n annerbyniol. Dyna pam yr ydym yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu staff a chleifion sy'n ysmygu i roi'r gorau iddi.
“Ond, mi rydan ni’n realistig. Efallai na fyddwn yn gallu dileu ysmygu'n llwyr, ond mi allwn ni gyfrannu at leihau cyfraddau ysmygu drwy'r polisi hwn. Fydd dod yn gwbl ddi-fwg ddim yn digwydd dros nos; mae angen newid agwedd a bydd hyn yn cymryd amser.”
Mae trin afiechydon sy'n gysylltiedig ag ysmygu'n costio tua £1miliwn y dydd i'r GIG yng Nghymru ac mae ysmygu hefyd yn cyfrif am 22% o gostau derbyn oedolion i ysbyty ac 13% o gostau ymgynghoriadau â meddygon teulu.
Yn ôl y data diweddaraf nid yw tua 76% o oedolion Gogledd Cymru’n ysmygu. Mae hyn yn golygu nad yw bron i wyth o bob deg ymwelydd, claf neu aelod o staff ar unrhyw safle GIG yn ysmygu.
Am gymorth i roi’r gorau i ysmygu cysylltwch â Dim Smygu Cymru ar 0800 085 2219