Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
26 Chwefror 2010
Pobl Dros 50 yn Cael Cyfle i DdisgleirioMae gwahoddiad i ymgeiswyr dros 50 oed o bob rhan o Ogledd Cymru i gymryd rhan mewn gornest dalentau i’w chynnal yn Wrecsam ym mis Mai.
Yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Wrecsam ar ddydd Sadwrn 15fed Mai. Mae’r sioe am 7.00pm a bydd clyweliadau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd.
Yng ngornest y llynedd, y canwr a dynwaredwr Johnny Whittaker gipiodd y brif wobr ac mae’r trefnyddion yn disgwyl i fwy fyth gynnig gan fod yr ornest wedi cael ei hagor i bob un o 6 sir y Gogledd.
Gwobr Gyntaf eleni yw penwythnos i ddau yng ngwersyll Pontin’s ynghyd â £100, a’r Ail Wobr yw £100.
Bydd yr achlysur yn ffurfio rhan o Wyl y Gwanwyn, mis o ddigwyddiadau’n dathlu dawn greadigol pobl hyn.
Mae ffurflenni cais i’w cael trwy ffonio 01978 292683 neu 01352 702472 neu 01824 712704 a rhaid eu dychwelyd erbyn dydd Gwener 16eg Ebrill.
Mae tocynnau ar gyfer y sioe i’w cael o’r Ganolfan Groeso – 01978 292015.