Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

06 Ionawr 2012

Lansio gwefan ar gyfer tenantiaid y Cyngor

Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio ac felly gall tenantiaid y Cyngor nawr wneud cais ar-lein am waith trwsio. Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio safle rhyngrwyd diogel newydd er mwyn i denantiaid allu cael gwybodaeth am eu tenantiaeth neu gysylltu â’r Cyngor ynghylch eu cartref.

‘Fy Nhŷ Cyngor’ yw enw’r ffordd newydd y gall tenantiaid y Cyngor ryngweithio â gwasanaeth tai eu Cyngor. Erbyn hyn mae trigolion yn medru mynd ar-lein er mwyn cael gweld eu cyfrif rhent ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy.

Byddant yn gallu gweld yn union faint o weddill ariannol sydd ganddynt yn eu cyfrif a gweld y gweddill ariannol blaenorol hefyd. Ar ben hynny mae tenantiaid yn medru gwneud cais am waith trwsio a gweld y gwaith trwsio sydd eto i’w wneud.

Bydd y gwasanaeth newydd hwn ar gael i denantiaid ar ben y dulliau sydd ar gael yn barod, sy’n cynnwys ffonio un o’r chwe swyddfa ystâd leol.

Yn ogystal â hynny bydd tenantiaid yn gallu anfon negeseuon neu ymholiadau a sicrhau bod yr wybodaeth a gedwir amdanynt, wedi cael ei diweddaru. Mae hynny’n cynnwys eu manylion cysylltu. Bydd hyn yn caniatáu inni roi gwell gwasanaeth i’n tenantiaid.

Er mwyn cael mynediad diogel at yr wybodaeth bydd yn rhaid defnyddio cyfrinair a chwestiwn diogeledd ychwanegol sy’n unigryw i bob defnyddiwr. Bydd pob un o’r ceisiadau am gofrestru ar gyfer y safle yn cael eu gwirio cyn y gall tenantiaid gael gafael ar eu gwybodaeth. Ar ôl iddynt gofrestru fe anfonir cyfeirnod adnabod personol atynt trwy’r post er mwyn iddynt allu mynd at y safle hwn.

Mae ‘Fy Nhŷ Cyngor’ yn cael ei ddarparu ar gyfer y tenantiaid hynny y mae’n well ganddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd neu denantiaid na allant gysylltu â’r gwasanaeth tai yn ystod oriau swyddfa. Mae hyn i gyd yn rhan o’r ymrwymiad parhaol y mae Cyngor Wrecsam wedi’i wneud i ddatblygu a gwella’r ffyrdd y gall tenantiaid ymgysylltu â’r awdurdod.

Erbyn hyn mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bob tenant a gellir ei gyrchu ar-lein yn
https://myhouse.wrexham.gov.uk/ssp_WEL/

yn ôl i'r brig