Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

02 Rhagfyr 2011

Lansio Ymgyrch Nadolig Wrecsam Ddiogel – Diogela Dy Ddiod – 2011

Gyda gŵyl y Nadolig yn nesáu mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn paratoi i lansio ymgyrch Wrecsam Ddiogel - Diogela Dy Ddiod - 2011.

Ymgyrch flynyddol yw hon sy’n dod â phartneriaid ynghyd yn cynnwys Cyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a nifer o asiantaethau a busnesau o’r sectorau gwirfoddol a phreifat, i weithio mewn partneriaeth er mwyn:

Atal a lleihau’r troseddau treisiol a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol dan ddylanwad y ddiod feddwol sy’n digwydd yng nghanol y dref yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Fel gyda’r ymgyrchoedd blaenorol, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi neilltuo dwy brif noson ar gyfer tymor 2011.

Yn ystod y nosweithiau hyn bydd nifer o fentrau a gweithgarwch yn digwydd er mwyn sicrhau bod pobl sy’n ymweld â chanol y dref yn mwynhau noson allan ddiogel. Mae llawer o nodweddion newydd i ymgyrch 2011 yn cynnwys sylw arbennig iawn i Yfed o Dan Oed.

Bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd gyda chymorth gweithgarwch dwys gan yr Heddlu a Safonau Masnach yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblem Yfed o Dan Oed, Prynu ar Ran Eraill a defnyddio cardiau adnabod ffug yng nghanol y dref.

Bydd rhieni a phobl ifanc yn cael eu targedu hefyd gydag amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu arloesol yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg dant las, gyda’r bwriad o hybu ymwybyddiaeth o yfed o dan oed a phrynu ar ran eraill. Hefyd, bydd yr ymgyrch yn cynnwys hyrwyddo’r i-ffôn Wrecsam Ddiogel sydd wedi ei diweddaru a chymhwysiad ffôn android sy’n rhoi cyngor a chanllawiau rhagorol ynglŷn â sut i fwynhau noson allan yn ddiogel yn y dref.

Mae ymrwymiad mawr iawn i’r ymgyrch ymysg y tafarnwyr a byddant yn helpu trwy hyrwyddo negesau allweddol yr ymgyrch yn eu lleoliadau. Bydd gweithwyr y bariau sy’n gweithio yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn cael eu hannog hefyd i wisgo’r crysau T wedi’u brandio gyda Wrecsam Ddiogel - Diogela Dy Ddiod.

www.wrecsamdiogel.co.uk

Yn ystod mis Rhagfyr bydd y Bartneriaeth hefyd yn darlledu cyfres o hysbysebion ar y radio i hyrwyddo yfed cyfrifol. I gefnogi’r hysbysebion bydd nifer o ddatganiadau i’r wasg a chyfweliadau ar y radio gyda’r bwriad o hyrwyddo negesau diogelwch allweddol a hyrwyddo yfed cyfrifol yng nghanol y dref trwy gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Cafwyd y sylw gan y Cynghorydd Bob Dutton: Aelod Arweiniol ar gyfer Cymunedau a Pherfformiad: “Mae’r troseddu treisiol a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi bod yn gostwng yn raddol yng Nghanol Tref Wrecsam yn y blynyddoedd diweddar. Rwy’n ffyddiog iawn bod hyn i raddau helaeth iawn o ganlyniad i waith gwych y partneriaid hynny sy’n cyfrannu at yr ymgyrch Wrecsam Ddiogel – Diogela Dy Ddiod. Mae’r ymgyrch yn dod ag amrywiaeth fawr o bartneriaid at ei gilydd o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r nod pennaf yw annog pobl i ddod i fwynhau noson allan ddiogel yng Nghanol Tref Wrecsam.”

I gefnogi sylwadau’r Cynghorydd Dutton, ychwanegodd y Prif Arolygydd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ‘na draddodiad bod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn brysur yng nghanol tref Wrecsam. Rydym yn gwybod bod pobl yr adeg yma o’r flwyddyn yn tueddu i yfed mwy, ond byddem fodd bynnag yn annog pobl i yfed yn gall a chofio bod yfed gormod yn gallu effeithio ar ymddygiad a dod â chanlyniadau difrifol. Mae’r neges yn syml – fyddwn ni ddim yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais. Mi fyddwn ni’n delio’n sydyn iawn efo unrhyw un sy’n ymddwyn yn anghyfrifol, oherwydd bod yr Heddlu a’n partneriaid wedi ymrwymo i sicrhau y gall ymwelwyr ddod i Ganol Tref Wrecsam i gael andros o noson allan dda, ac un ddiogel hefyd.”

yn ôl i'r brig