skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


19 Medi 2008

Lansiwyd Trefi Taclus yn Wrecsam

Mae Cymunedau yn Wrecsam yn barod i fanteisio oddi ar gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan ei fenter Trefi Taclus. Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn £121,000 gan y cynllun ac mae nawr yn cysylltu â phob un o’r 34 cyngor cymuned yn y fwrdeistref sirol i gyflwyno cynllun y maent yn credu bydd yn gwella eu hamgylchfyd.

Gellir ystyried amryw o gynlluniau, er enghraifft Diwrnod Gweithredu Amgylcheddol mewn ardal neilltuol, clirio safle neu leoliad penodol, neu osod arwyddion ychwanegol i rybuddio rhag tipio anghyfreithlon mewn ardal. Beth bynnag yw’r cynllun cyn belled â’i fod yn bodloni’r meini prawf caiff ei ystyried ar gyfer ei ariannu.

Bydd y prosiectau hefyd mewn partneriaeth gyda gwirfoddolwyr lleol, ysgolion, busnesau a bydd Cyngor Wrecsam yn darparu cefnogaeth fel ysgubwyr llwybrau a pheiriannau golchi gwasgedd uchel.

Defnyddir peth o’r arian ar gyfer gwelliannau ledled y sir fel yr ymgais yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, camau i ymdrin â gwastraff sigarét a darparu gweithgareddau addysg ychwanegol mewn Parciau Gwledig.

Dywedodd y Cyng. Dave Bithell, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Chludiant:

"Mae hwn yn gyfle gwych i gynghorau cymuned a thrigolion lleol i ymfalchïo yn eu hardal a gweithio gyda’i gilydd i wella’r amgylchfyd i bawb. Yn amlwg swm cyfyngedig gellir ei wario ym mhob ardal a bydd arian ar gael bob blwyddyn am dair blynedd." Mae’r Fenter hon yn cefnogi “Strydoedd o Fri” i wneud Wrecsam yn le glanach, gwyrddach a diogelach i fyw ynddo.

Mae gan Gynghorau Cymuned hyd at 31ain Hydref i gyflwyno eu ceisiadau am arian. Mae mwy o wybodaeth ar gael i gynghorau cymuned

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint