Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

24 Mai 2012

Beth am ichi ein helpu i roi cyhoeddusrwydd i daith y Fflam Olympaidd trwy Wrecsam

Ar ddydd Mercher Mai 30ain bydd y Fflam Olympaidd yn cyrraedd Wrecsam.

Bydd Cyngor Wrecsam yn rhoi sylw, yn y fan a’r lle, i daith y fflam ac fe hoffem i chi ein cynorthwy i roi amlygrwydd i’r digwyddiad hwn.

Fe hoffem ichi anfon atom eich ffotograffau, fideos a’ch ‘tweets’ wrth i’r fflam gael ei chario trwy’r fwrdeistref sirol.

Caiff y ffotograffau gorau eu rhoi ar ein gwefan, a bydd y fideos yn cael eu darlledu ar ein tudalennau Trydar a Gweplyfr.

Man cychwyn taith y Fflam Olympaidd fydd Ffordd Yr Wyddgrug am 7.25 y bore a bydd yn cyrraedd Llwyn Isaf am 7.40am. Fe gynhelir perfformiadau arbennig ar y llwyfan a bydd y Fflam yn cael ei harddangos hefyd. Bydd y perfformiadau’n cynnwys dawns stryd o’r enw ‘popio’r corff’, Hula Nation, Côr Ysgol Morgan Llwyd a grŵp lleol o’r enw ‘Heal the Last Stand.’

Ar ôl cael saib yn Llwyn Isaf bydd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn mynd yn ei blaen trwy Esclusham ac Acrefair ar ei ffordd i Drefor ac at ddyfrbont enwog Thomas Telford lle bydd hi’n cael ei chario ar gwch camlas - dyna ichi ffordd hollol wahanol o’i chludo!

Gallwch chi e-bostio eich lluniau a’ch fideos at webmaster@wrexham.gov
Ac fe gewch yr wybodaeth ddiweddaraf un am daith y Fflam Olympaidd yn fan hyn -

wrecsam.gov.uk
twitter.com/wrexhamcbc
facebook.com/wrexhamcouncil

yn ôl i'r brig