Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

18 Mai 2012

Dewch i ddathlu dyfodiad y Ffagl Olympaidd yn Wrecsam!

Bydd dyfodiad y Fflam Olympaidd yn Wrecsam yn cael ei ddynodi gyda pharti ysblennydd yn Llwyn Isaf.

Wrth i’r Fflam gyrraedd am 7.40am ceir perfformiadau arbennig ar y llwyfan a bydd y Ffagl yn cael ei harddangos. Ceir bopio corff, Cenedl Hwla, Côr Ysgol Morgan Llwyd a’r band lleol ‘Heal the Last Stand’.

Fel yr unig Bartner Cenedlaethol yn Cyflwyno Taith Gyfnewid y Ffagl Olympaidd, mae Lloyds TSB yn falch o fod yn creu cynifer â phosib o gyfleoedd i gwsmeriaid a chymunedau gael ymwneud â’r Fflam Olympaidd. Bydd criw perfformwyr Lloyds TSB, y Flame Followers, yn cyrraedd cyn y Fflam mewn tacsi a fan hufen iâ Lloyds TSB bwrpasol i gyffroi’r tyrfaoedd gyda chymysgedd unigryw o berfformiadau stryd, theatr a chwaraeon i ddathlu ymdrech, nerth, ystwythder a sgìl ein harwyr chwaraeon Olympaidd cenedlaethol, Tîm GB.

Bydd y Fflam yn gadael Llwyn Isaf am 8.10am, ond bydd yr hwyl yn para ar y Grîn tan 10.30am. Bydd perfformiadau llwyfan, yn ogystal â phlant ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Dywedodd Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam:

“Gyda Llundain 2012 ar ein gwarthaf, mae llawer o gyffro yn cronni ar draws y wlad.

“Rydym yn llawn cyffro yn croesawu’r Fflam Olympaidd i Wrecsam a gobeithiwn y bydd pobl yn troi allan i weld yr achlysur unwaith mewn oes hwn.

“Mae dathliad Llwyn Isaf yn ddigwyddiad cymunedol go iawn a bydd yno rywbeth i bawb ei fwynhau.

“Mae gennym rai digwyddiadau cyffrous wedi’u cynllunio hefyd ar gyfer yr adeg pan fydd y ffagl yn cyrraedd Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a byddwn yn cyhoeddi’r rhain yn fuan.”

Dylech nodi y bydd meysydd parcio’r Llyfrgell, Byd Dŵr a Neuadd y Dref i gyd ar gau ar fore Taith Gyfnewid y Ffagl Olympaidd a byddant yn ailagor am oddeutu 9am. Bydd Stryt Caer ar gau hefyd rhwng 7am a 9am.

I gael manylion llawn y daith a pha ffyrdd fydd ar gau ewch i wefan Cyngor Wrecsam: www.wrexham.gov.uk/london2012.

yn ôl i'r brig