Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

17 Mai 2012

Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd (30 Mai) – Ffyrdd ar gau a Chyfyngiadau Parcio yng Nghanol y Dref a Ffordd Trefor

Wrth i Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd nesáu at Wrecsam mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi’r cyfyngiadau parcio a’r ffyrdd a fydd ar gau yng nghanol y dref a Basn Trefor.

Ar fore 30 Mai bydd Stryt Caer ar gau rhwng 7.00 am a 8.30 am o gylchfan Ffordd Powell ger Coleg Iâl i Stryt y Farchnad. Bydd meysydd parcio Neuadd y Dref, Stryt y Lampint a’r Byd Dwr hefyd ar gau rhwng 7 am a 8.30 am. Y ffyrdd eraill i mewn i’r dref a’r meysydd parcio eraill yng nghanol y dref yw at gylchfan Ffordd Caer, gan gymryd troad Ffordd Powell tuag at Bodhyfryd a Stryt Holt er mwyn mynd i faes parcio aml lawr Marchnad y Bobl a meysydd parcio Ffordd y Cilgant.

Ar wefan y cyngor ceir map clir sy’n dangos y lleoliadau sydd ar gau yng nghanol y dref a’r ffyrdd eraill i’w defnyddio.

http://www.wrecsam.gov.uk/assets/pdfs/towncentreolympictorch.pdf

Bydd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd hefyd yn mynd trwy Esclusham ac Acrefair ar ei ffordd i draphont ddwr enwog Thomas Telford yn Nhrefor pan fydd yn mynd ar fad y gamlas fel dull gwahanol o deithio.

Bydd ffyrdd ar gau a chyfyngiadau parcio ger Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddwr Pontcysyllte a bydd y maes parcio ar agor i ddeilwyr Bathodyn Glas yn unig. Bydd y ceir eraill yn cael eu cyfarwyddo i barcio yn y cae sydd gyferbyn â’r prif faes parcio a bydd arwyddion yn unol â hynny.

Bydd gan y Fflam osgordd a phan na fydd cludwr yn ei chludo, ac yn ystod yr amseroedd hyn efallai y bydd oedi i draffig wrth i’r osgordd fynd tuag at y Draphont ar y ffyrdd canlynol:

Ffordd yr Wyddgrug (A541) - 7.25am, Stryt y Rhaglaw (A541) - 7.31am, Ffordd Grosvenor -7.32am, Ffordd Powell - 7.36am, Stryt Caer - 7.38am, Llwyn Isaf/Lawnt Neuadd y Dref - 7.40am, Stryt Caer - 8.13am, Stryd Fawr - 8.16am, Allt y Dref - 8.18am, Stryt y Bont (A5152) - 8.19am, Ffordd Rhiwabon (A5152) - 8.22am, Ffordd Wrecsam (A5152) - 8.28am, Ffordd Llangollen - (Ger yr arwydd at Acrefair) - 8.44am, Ffordd yr Orsaf - 9.02am, Basn Trefor - 9.06am, Traphont Ddwr Pontcysyllte - 9.07am

Dymuna Trefnwyr Taith gyfnewid y Fflam fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu hamynedd yn ystod y digwyddiad pwysig ac arbennig o boblogaidd i Wrecsam.

Bydd y fflam yn gadael Bwrdeistref Sirol Wrecsam am oddeutu 9.30am. Y rhain yw’r unig ffyrdd y bydd Taith Gyfnewid y Fflam yn mynd ar eu hyd a gall y cyhoedd weld y cludwr a’r fflam. Bydd y fflam yn teithio mewn cerbyd mewn rhannau eraill o’r daith.

yn ôl i'r brig