Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

28 Mai 2012

5 Lleoliad da i weld Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd

Bellach dim ond dyddiau sy’n weddill nes i’r Fflam Olympaidd gyrraedd Wrecsam fel rhan o’i thaith hanesyddol o amgylch y DU.

Bydd y fflam y cyrraedd Wrecsam am 7.25am cyn mynd drwy ganol y dref a Rhostyllen ac Acrefair cyn cyrraedd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.

Dyma rhai o’r mannau gorau i weld y fflam wrth iddi fynd o amgylch Wrecsam -

Llwyn Isaf, 7.40am – Bydd parti gwych yn cyfarfod y fflam wrth iddi gyrraedd Lawnt Llwyn Isaf. Bydd y fflam yn aros ar Lwyn Isaf am hanner awr ar lwyfan Lloyds TSB. Ymhlith y perfformiadau arbennig ar y llwyfan fydd Hula Nation yn dawnsio, côr Ysgol Morgan Llwyd a’r band lleol ‘Heal the Last Stand.’

Dechreua'r adloniant ar Lwyn Isaf am 7am gyda diddanwyr stryd, triciau BMX a dawnswyr rhuban.

Stryt Caer, 7.38am & 8.13am - Bydd y Fflam Olympaidd yn cyrraedd ac yn gadael Llwyn Isaf ar Stryt Caer, ac mae hwn yn lleoliad da i weld y fflam wrth iddi fynd drwy ganol y dref.

Stryd Fawr, 8.16am - Lleoliad da arall i wylio’r fflam yng nghanol y dref. Bydd siopau, caffis a bariau’n agor yn gynnar i helpu i groesawu’r fflam a byddant yn cynnig diodydd a lluniaeth ysgafn.

Ffordd yr Orsaf, Trevor, 9.02am – Lleoliad da i weld y ffarm wrth iddi deithio tuag at Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Bydd rhai golygfeydd bendigedig i’w gweld wrth i gludwyr y fflam fynd ar eu taith.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte, 9.07am - Bydd y fflam yn teithio ar draws Traphont Ddŵr fawreddog Thomas Telford ym Mhontcysyllte. Hefyd bydd perfformiadau arbennig gan Gôr Meibion y Fron a Seindorf Arian Llangollen.

yn ôl i'r brig