Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
30 Mai 2012
Roedd golwg pawb ar Wrecsam heddiw wrth i Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd gyrraedd y dref fel rhan o’i siwrnai 8,000 milltir ledled y DU.
Daeth trigolion a phlant ysgol yn eu miloedd i gael cipolwg unwaith mewn bywyd ar y Fflam Olympaidd enwog wrth iddi oleuo strydoedd Wrecsam.
Cafodd y Fflam digonedd o gymeradwyaeth wrth iddi gael ei chludo ar hyd Ffordd yr Wyddgrug, gan fynd heibio Stadiwm enwog Cae Ras Prifysgol Glyndŵr.
Yna, roedd parti gwych yn croesawu’r Fflam ar Lwyn Isaf, gyda pherfformiadau gan Gôr Ysgol Morgan a’r band lleol ‘Heal the Last Stand.
Ronald Price sy’n 82 oed ddaeth â’r Fflam i Lwyn Isaf ac fe’i croesawyd â chymeradwyaeth uchel.
Bu i Lloyds TSB, partner cyflwyno cenedlaethol Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd hefyd yn diddanu’r tyrfaoedd. Cyrhaeddodd y llu o berfformwyr, Dilynwyr y Fflam mewn tacsi Lloyds TSB arbennig, fan hufen iâ a thyrfaoedd cyffrous gyda chymysgedd unigryw o berfformiadau stryd, theatr a chwaraeon.
Yn y rhan olaf o’r daith gyfnewid cafodd Jo Gregory, Arweinydd Sgowtiaid ac Afancod o Landegla, gymeradwyaeth gorfoddelus gan wylwyr ar draws Traphont Ddŵr enwog Thomas Telford Pontcysyllte, ar fad y gamlas ‘Saturn’.
Y bore yma hefyd daeth plant ysgol i fwynhau gweithgareddau chwaraeon ar Llwyn Isaf, a ddarparwyd gan uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Wrecsam ar y cyd ag Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds. Gwnaethant gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys athletau tennis, pêl-droed a’r chwaraeon Paralympaidd boccia. Am ragor o wybodaeth am Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol ewch i www.schoolsportweek.org.