Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

06 Awst 2012

Rygbi Cyffwrdd yn mynd o nerth i nerth yn Wrecsam

Mae Rygbi Cyffwrdd yn cynyddu yn ei boblogrwydd yn Wrecsam a bellach rhaid oedd symud i leoliad mwy. Bellach ni chynhelir y sesiynau a drefnir gan Cynghrair Rygbi Cymru yn Stadiwm Chwaraeon Queensway yn ystod misoedd yr haf.

Mae rygbi cyffwrdd, yn fersiwn digyswllt o’r chwaraeon sy’n addas ar gyfer pawb.

Mae’r chwaraeon yn lleihau’r cyswllt corfforol ac yn addas ar gyfer dynion a merched o bob oed.

Cynhelir Rygbi cyffwrdd yn Stadiwm Queensway bob nos Lun rhwng 7.15 a 9pm.

Dywedodd Mark Glasson, Rheolwr Stadiwm Queensway:

“Ers cyrraedd cynghrair rygbi proffesiynol yn yr ardal rydym wedi gweld cynnydd ym mhoblogrwydd rygbi’n gyffredinol. Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Chynghrair Rygbi Cymru er mwyn cael mwy o bobl i fod yn egniol ac yn bwysicach na dim i gael hwyl.

“Y peth day yw bod chwaraewyr o bob gallu wedi bod yn galw heibio i chwarae. Daeth pobl o wahanol gefndiroedd chwaraeon yn ogystal â phobl sy’n chwilio am ffordd newydd o gadw’n heini.”

Drwy ddidymu’r taclau ac elfennau cyswllt eraill o’r chwaraeon, mae Rygbi Cyffwrdd yn fwy am athletiaeth ac ymarfer, ac yn annog chwaraewyr i fod yn Ystwyth a chywir wrth basio a dal y bêl.

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol dros Iechyd:

“Mae rygbi cyffwrdd yn chwaraeon hwyliog ac yn ffordd dda i wella’ch ffitrwydd a chyfarfod â phobl newydd. Mae’n gêm hawdd i’w dysgu sy’n golygu y gallwch ei chwarae mewn dim o dro.

“Mae’n ffordd dda o weld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn aros yn egniol. Mae’r sesiynau wedi body n boblogaidd iawn a buaswn yn annog pobl o bob gallu i ddod draw i Queensway a rhoi cynnig arni. Rydym hefyd yn cynllunio rhai digwyddiadau sy’n gysylltiedig â rygbi yn y paratoadau cyn Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan dewch draw i sesiwn yn Queensway. Cost pob sesiwn yw £2.50.

yn ôl i'r brig