skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


05 Medi 2008

Cynnig siroedd i hybu twristiaeth fusnes

Gallai Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych elwa o ymgyrch newydd i ddod â mwy o dwristiaeth fusnes i’r rhanbarth.

Mae’r tair sir eisoes yn cydweithio’n agos i annog pobl ar eu gwyliau i ddod i ororau gogledd Cymru, ac maent nawr yn uno gyda rhannau eraill o ogledd Cymru i ddenu mwy o ymwelwyr busnes.

Mae digwyddiadau fel cynadleddau ac arddangosfeydd masnach yn werth miliynau o bunnoedd i economi Prydain bob blwyddyn ac mae arweinwyr y maes twristiaeth yn awyddus i sicrhau bod y rhanbarth yn cael cyfran fwy ohonynt.

Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Reolaeth Gorfforaethol ac Adfywio: “Mae gororau gogledd Cymru yn fwy parod nag erioed i groesawu digwyddiadau busnes.

Mae gennym gyfleusterau gwych, golygfeydd hardd ac mae’n hawdd ein cyrraedd diolch i gysylltiadau ffordd a rheilffordd ardderchog.

Gall twristiaeth fusnes ddod ag arian mawr i’r ardal. Trwy gydweithio â gweddill gogledd Cymru, gallwn, gobeithio, roi Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar y map fel cyrchfan i gynadleddau a chreu busnes newydd i’r economi leol.”

Gall yr ardal gynnig ystod eang o leoliadau ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd masnach, seminarau a chyfarfodydd busnes, gan cynnwys gwestai, canolfannau celf, cyfleusterau prifysgol a lleoliadau chwaraeon.

I gychwyn yr ymgyrch, bydd Gororau Gogledd Cymru yn ymuno â Chonwy, Môn a Gwynedd i hyrwyddo gogledd Cymru mewn arddangosfa yn un o leoliadau cynadledda mwyaf y DU.

Disgwylir i gannoedd o drefnwyr cynadleddau ddod i arddangosfa EventUK yn NEC Birmingham ar 16 ac 17 Medi, a bydd hynny’n gyfle delfrydol i hyrwyddo gogledd Cymru fel lleoliad i ddigwyddiadau busnes.

Mae’r ymgyrch i hybu twristiaeth fusnes yn y rhanbarth yn cael ei chydlynu a’i hariannu gan Bartneriaeth Busnes Gogledd Cymru (TPNW), sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth rhanbarthol gydag arbenigedd marchnata a chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Chris Henshaw, Swyddog Prosiect Twristiaeth 01978 292489

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint