Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
07 Awst 2012
Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi y gall holl gyn- bersonél y lluoedd arfog sy’n byw yn ardal Wrecsam nofio AM DDIM o ddydd Llun 3 Medi 2012 ymlaen.
Gall cyn-filwyr nofio ym mhob un o byllau nofio cyhoeddus Cyngor Wrecsam: Y Byd Dŵr, Plas Madoc, Gwyn Evans a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun.
Mae’r fenter yn ategiad at gynllun gwreiddiol “Nofio am Ddim” a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn galluogi pobl 60+ a phlant iau na 16 oed i nofio am ddim.
Cyngor Wrecsam yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r cynllun sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad gweithgaredd corfforol a gwella iechyd a lles merched a dynion a fu yn y gwasanaethau.
Dywedodd Helen Laidler, Swyddog Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dŵr:
“Mae nofio’n chwaraeon ffantastig i bobl o bob oed ac rydym yn falch o fod yn cynnig mynediad am ddim i’n pyllau i holl gyn-aelodau’r lluoedd arfog. Gobeithiwn y bydd cymaint o bobl a phosibl yn ymuno er mwyn helpu i greu Wrecsam egniol.”
Dywedodd David Griffiths, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gwasanaethau i Oedolion: “Daw’r penderfyniad i gynnwys cyn-filwyr yn y rhaglen nofio am ddim presennol mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth i ddynion a merched sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd o ledled Cymru.
“Gall nofio fod yn fanteisiol o ran iechyd a lles yn gyffredinol ac rwyf wrth fy modd bod Wrecsam yn arwain gweddill Cymru i gynnig y gwasanaeth hwn am ddim i’r bobl sydd wedi gwasanaethu dros eu gwlad.”
Bydd y Lleng Prydeinig Brenhinol yn cefnogi’r lansiad ddydd Llun 3 Medi rhwng 6 a 7pm yn y Byd Dŵr ac mae’n gwahodd dynion a merched lleol sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd i ddod i ymuno â nhw gwneud sblash.
Dylai cyn-aelodau o’r lluoedd sy’n dymuno ymuno â’r cynllun nofio am ddim fynd i’w Canolfan Hamdden a Gweithgareddau lleol gyda phrawf o’u cyfeiriad a’r dogfennau rhyddhau swyddogol neu ddogfen y Lleng Prydeinig Brenhinol gyda’u rhif gwasanaethu. Rhaid i’r cyn-filwyr fod â chyfeiriad Wrecsam a bydd angen talu ffi weinyddol ddechreuol o £2.