skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


01 Medi 2008

Angen gwirfoddolwyr i gerdded llwybrau

Mae tîm Hawliau Tramwy Cyngor Wrecsam yn chwilio am wirfoddolwyr i gerdded y llwybrau amrywiol a hyrwyddir ar eu gwefan Teithiau Cerdded.

Mae nifer teithiau cerdded wedi tyfu’n gyflym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd sefyllfa lle mae mwy o deithiau cerdded nag y gall staff eu gwirio bob blwyddyn.

Y syniad yw bod y gwirfoddolwr yn dilyn y daith fel y cyhoeddwyd ar y wefan ac yn edrych yn agos ar y camfeydd, giatiau a phontydd y deuir ar eu traws. Os oes problem gyda’r rhain neu gydag unrhyw beth arall sy’n effeithio ar y llwybrau, dylai’r cerddwr gysylltu â’r ceidwaid hawliau tramwy, a fydd yn trefnu i unrhyw waith angenrheidiol gael ei wneud.

Mae’r teithiau cerdded, sydd yn y cefn gwlad gorau sydd gan y sir i’w gynnig, yn amrywio rhwng 3 ac 15 milltir, gyda’r rhan fwyaf yn para oddeutu 5 milltir. Rhoddir taflen o gyfarwyddiadau’r daith gerdded a map lliw o’r llwybr lle bynnag fo hynny’n bosibl. Nid oes rhaid i’r daith gael ei gwneud ar ddiwrnod arbennig, felly gallwch aros am dywydd da. Gallai fod yn ymarfer untro yn unig neu gall y gwirfoddolwr ei ‘fabwysiadu’ a’i wneud bob blwyddyn.

Gweler y “Teithiau cerdded Hunan-dywysiedig” yn www.wrecsam.gov.uk/cerdded am y rhan fwyaf o’r llwybrau. Mae teithiau cerdded eraill, yn arbennig yn Nyffryn Ceiriog, wedi eu rhestru ar dudalen “Taflenni a Llyfrau Teithiau Cerdded” o dan yr un cynllun. Os nad oes gennych gyfleusterau rhyngrwyd, galwch yn swyddfa hawliau tramwy Adeiladau’r Goron i weld y llwybrau.

Cysylltwch â ni yn rightsofway@wrexham.gov.uk neu ffoniwch Charlotte Flett ar 01978 297156

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint