Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
Defnyddiwch y traed ‘na!Beth am fanteisio ar y tywydd braf a mynd am dro bach cyflym yn ystod amser cinio? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Walkabout Wrexham a reolir gan Groundwork Wrexham & Flintshire wedi lansio cynllun o'r enw Urbanwalks er mwyn helpu pobl i wneud 30 munud o weithgaredd corfforol o leiaf 5 diwrnod yr wythnos yn unol â'r argymhelliad cenedlaethol.
Mae'r daflen Urbanwalks yn cynnwys chwech o lwybrau cerdded o amgylch canol y dref y gellir eu cwblhau yn annibynnol mewn llai na 30 munud. Mae hyn yn golygu y gallech fynd am dro yn ystod amser cinio.
Mae'r daflen gyntaf wedi'i hanelu at bobl sy'n gweithio yng nghanol y dref ond mae'n addas hefyd ar gyfer ymwelwyr y dref. Mae mynd am dro cyflym yn ystod eich awr ginio yn gwneud i chi deimlo'n dda, yn cynyddu eich lefelau ffitrwydd, gallai eich helpu i golli pwysau, a gall leihau straen.
Mae'r taflenni ar gael yn swyddfeydd y cyngor yng nghanol y dref, y Byd Dwr, y llyfrgell a'r ganolfan gelf, y ganolfan groeso, Eglwys San Silyn a'r amgueddfa.
Bydd y daflen nesaf a gynhyrchir yn cwmpasu Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Taflenni Urbanwalks
Mae'r ddogfen yma ar gael ar i ddadlwytho yn y fformat isod:
Teflenni Urbanwalks - Fersiwn PDF 816Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.